Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae un o gwmnïau cynghori busnes mwyaf blaenllaw Cymru yn paratoi i agor swyddfa newydd yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe.
Bydd Greenaway Scott, sydd yn arbenigo mewn cynnig cyngor i’r sectorau gwyddorau bywyd, technoleg, sectorau fferyllyddol a TG, yn lansio ei swyddfa yn Abertawe yng nghanol Campws y Bae fydd werth miliynau o bunnoedd.
Hon fydd y drydedd swyddfa gan y cwmni, sydd yn tyfu'n gyflym, a fydd yn ymuno â busnesau fel Fujitsu ar y campws, sydd yn ganolfan bwysig i weithgareddau'r Brifysgol.
Bydd lleoliad y swyddfa newydd yn galluogi Greenaway Scott i fanteisio ar nifer o fusnesau technolegol sydd yn tyfu'n gyflym yn yr ardal. Bydd hefyd yn helpu cyfoethogi a gwella darpariaeth yr Ysgol Rheolaeth wrth symud ymlaen.
Bydd y lansiad hefyd yn gosod Greenaway Scott mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi a datblygu'r graddedigion talentog diweddaraf.
Bydd y swyddfa newydd yn cael ei rhedeg gan uwch gyfarwyddwr Rhian Osborne, a gafodd radd mewn Niwrowyddoniaeth a Diploma Graddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe.
Bydd tîm o bump aelod cymwysedig yn ymuno â Rhian ynghyd ag uwch gyfreithiwr corfforaethol y mae'r cwmni yn y broses o’u recriwtio ar hyn o bryd.
Dywedodd Ms Osborne, Pennaeth y tîm Masnachol ac Eiddo Deallusol yn y cwmni: "Mae lansio'r swyddfa Greenaway Scott yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe yn gam cyffrous i ni.
"Mae Ysgol Rheolaeth ac Athrofa Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi cynyddu’r nifer o fusnesau technolegol arbenigol yn yr ardal yn sylweddol. Felly roedd fan hyn teimlo fel y lleoliad delfrydol ar gyfer trydedd swyddfa i Greenaway Scott.
"Mae hyn yn ein gosod ni’n gadarn yng nghanol yr ymchwil fwyaf blaengar sydd yn cael ei chynnal ac sydd yn caniatáu i ni fanteisio ar dalent y graddedigion diweddaraf.
"Rydym yn croesawu'r cyfle i ddatblygu partneriaeth strategol sylweddol gyda'r Brifysgol i wella eu hymchwil a’u darpariaeth hyd yn oed ymhellach."
Dywedodd yr Athro Marc Clement, Deon Ysgol Rheoli Prifysgol Abertawe: "Mae'r Ysgol yn falch iawn o groesawu Greenaway Scott i Gampws y Bae. Mae'r Ysgol yn ffodus i fedru cael y byd academaidd a’r byd diwydiannol yn gweithio ar y cyd ac yn cydweithredu yn yr un adeilad er mwyn cynnig profiadau unigryw i fyfyrwyr i'n myfyrwyr."
Mae gan Greenaway Scott eisoes hanes o weithio gyda nifer o gwmnïau proffil uchel sydd wedi deillio o’r brifysgol fel TrakCel, sydd yn enghraifft o lwyddiant o Brifysgol Abertawe. Cafodd swyddfa’r cwmni yn Rhydychen ei lansio yn 2016 o ganlyniad i’w perthynas lwyddiannus gyda Phrifysgol Rhydychen. Ers agor, maent wedi cynghori cwmnïau gan gynnwys Carbon Matereials, Navenio a Silicon Fuels.
Cynigia Greenaway Scott gyngor ar eiddo corfforaethol, masnachol a deallusol i gwmnïau, gydag arbenigedd yn y sectorau gwyddor bywyd, technoleg, fferyllyddol a sectorau TG.
- Dydd Gwener 13 Ionawr 2017 10.00 GMT
- Dydd Iau 19 Medi 2019 15.54 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050