Cystadleuaeth Busnes yn y Bae yn ceisio gwella cyflogadwyedd myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn cynnal ei Chystadleuaeth Busnes yn y Bae ddeuddydd blynyddol i fyfyrwyr o 22 i 23 Chwefror yn Stadiwm Liberty y ddinas.

Business in the Bay Competition 1Trefnir y gystadleuaeth, i wella sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr, gan Dîm Gyrfaoedd yr Ysgol mewn cydweithrediad â PriceWaterhouseCoopers (PwC) ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Bydd timau o 5 myfyriwr o ystod o brifysgolion gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Loughborough yn cystadlu i ennill y brif wobr sef £1,000.

Caiff pob tîm o fyfyrwyr ei bartneru gyda mentor o faes diwydiant gan dderbyn y dasg o ddatrys problem fusnes a osodwyd gan PwC. Mae'r prif sgiliau y caiff y myfyrwyr eu dyfarnu arnynt yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, cynllunio a threfnu, datrys problemau a phroffesiynoldeb.

Caiff briff cystadleuaeth eleni ei ddatgelu i'r timau myfyrwyr ar fore Mercher 22 Chwefror wrth iddynt ymgynnull yn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae y Brifysgol.

Ar ôl hynny bydd ein timau yn teithio i Stadiwm Liberty, sy'n gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a'r Gweilch lle yr ânt ar daith dywys o'r stadiwm cyn cychwyn gwaith ar eu prosiectau. Byddant wedi'u cefnogi gan un o fentoriaid tîm eleni sy'n cynnwys Graham Smith, Cydlynydd Menter yr Uwch-gynghrair a Ben Davies, Hyfforddwr Dysgu Mentergarwch o Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a'r ymgynghorydd busnes sydd wedi'i leoli yn Abertawe, Tim Hawkes, gynt o Silverwing UK Ltd.

Business in the Bay Competition 2Ar ddydd Iau 23 Chwefror bydd y timau'n dychwelyd i Stadiwm Liberty lle y byddant yn parhau i weithio ar eu prosiectau cyn brolio eu canfyddiadau a'u casgliadau gerbron panel o feirniaid o faes diwydiant gan gynnwys Sue Mortimer, Chris Richards, ac Iain Morland o PwC; Hannah Eames, Pennaeth Marchnata a Julie Parienti, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu o Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe; a Dr Jafar Ojra, Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.

Meddai trefnydd y gystadleuaeth Jess Loomba, Swyddog Gyrfaoedd yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ein cystadleuaeth Busnes yn y Bae sydd yn ei hail flwyddyn erbyn hyn yn darparu dull amgen i fyfyrwyr prifysgol wella eu sgiliau cyflogadwyedd y tu allan i'r byd academaidd.

"I rai myfyrwyr nad ydynt wedi derbyn cyfle i gwblhau modiwl cwrs sy'n cynnwys elfennau ymarferol neu sydd â diffyg yn nhermau profiad gwaith, mae'r gystadleuaeth yn gyfle da iddynt ennill profiad yn gweithio fel rhan o dîm ac i wella eu sgiliau cyflogadwyedd."