Gall y dyfodol ddechrau yn Abertawe: Prifysgol Abertawe’n croesawu’r newyddion am y morlyn llanw

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, wedi croesawu argymhelliad Adolygiad Hendry y dylai cynllun morlyn llanw Bae Abertawe mynd yn ei flaen.

Meddai’r Athro Iwan Davies: "Mae hyn yn newyddion ardderchog, gan y byddai'r morlyn llanw yn hwb enfawr i'r Brifysgol, i Abertawe, ac i’r rhanbarth ehangach.

Mae gan Abertawe hanes balch o arloesi: o gopr a dur i reilffordd deithwyr cynta’r byd. Byddai'r morlyn yn dangos y gall y dyfodol ddechrau, unwaith eto, yma yn Abertawe.

Mae’r Brifysgol wedi bod wrth galon arloesedd ardal Bae Abertawe am bron i ganrif. Bydd y morlyn yn cael ei adeiladu ar draeth y Brifysgol ger ein campws godidog newydd, Campws y Bae. Pan fydd y morlyn yn cael ei adeiladu, Prifysgol Abertawe fydd yr unig brifysgol yn y byd gyda morlyn ar ein traeth ein hunain. Fe fyddai'n gwella'r cyfleoedd chwaraeon dŵr sydd ar gael, ac yn gwella’r profiad eithriadol rydym eisoes yn cynnig i’n myfyrwyr.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau gyda’n cydweithrediad ymchwil gyda'r Tidal Lagoon Company, gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn peirianneg forol. Mae gennym beiriant tonnau mwyaf Ewrop ar Gampws y Bae sydd yn gallu modelu amodau llanw.

Mae'r adolygiad yn gam pwysig iawn ymlaen wrth ennill y gymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer y morlyn llanw. Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn symud ymlaen ymhellach."

Swansea Bay Tidal Lagoon