Gwirfoddolwyr ifainc y Ganolfan Eifftaidd yn ennill Gwobr Gwirfoddoli Diana

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae 23 o wirfoddolwyr ifainc, 10 i 18 oed, o Abertawe a'r cylch, wedi derbyn Gwobr Diana am eu gwaith yn eu cymuned leol yn y Ganolfan Eifftaidd.

Wedi'i dyfarnu yn enw Diana, Tywysoges Cymru, cyflwynir y wobr i fodelau rôl ifainc sy’n helpu yn ddihunan i weddnewid bywydau pobl eraill gan fynd y tu hwnt i'r disgwyliadau i wneud newid cadarnhaol yn y byd. 

Diana Awards Winners (Egypt Centre)Gwirfoddolwyr y Ganolfan Eifftaidd, o'r chwith i'r dde: Seren Harries, Ffion Beynon, Seth Marshall, Mostafa Rabab, Naomi Newman, Kimberley Coughlan, Alexandria Voyce ac Abby Richards Williams.

Lleolir y Ganolfan Eifftaidd, Amgueddfa Hynafiaethau'r Aifft, ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Bob dydd Sadwrn caiff yr amgueddfa ei staffio gan y gwirfoddolwyr ifainc sy'n croesawu ymwelwyr ac yn arddangos y gweithgareddau addysgol megis mymïo. Yn eu hamser hamdden mae'r gwirfoddolwyr yn ymchwilio'r Aifft hynafol a'r amgueddfa ei hun sy'n dal y casgliad mwyaf o hynafiaethau'r Aifft hynafol yng Nghymru er mwyn gallu ateb unrhyw                                                                                                           gwestiynau y gall aelodau'r cyhoedd ofyn iddynt.

O ganlyniad i'w gwaith ymroddedig, teithiodd wyth o wirfoddolwyr yr amgueddfa i Neuadd Dinas Caerdydd ar ddydd Llun 20 Tachwedd 2017 i dderbyn gwobr Pencampwr Gwirfoddolwyr Diana gan Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru.

Carwyn Jones and Diana Awards winners

O'r chwith i'r dde: Mostafa Rabab, Abby Richards Williams, Alexandria Voyce,  Seren Harries, Y GwirAnrhydeddus Carwyn Jones, Naomi Newman, Seth Marshall, Kimberley Coughlan a Ffion Beynon.

Dywedodd Syd Howells, Rheolwr Gwirfoddolwyr yr Amgueddfa: "Rydym yn y Ganolfan Eifftaidd yn hynod o falch o'n gwirfoddolwyr ifainc. Mae Gwobr Diana yn eu cydnabod ac yn eu hannog i barhau a'u gwaith dihunan a'r gobaith yw y bydd yn ysbrydoli pobl eraill i wirfoddoli yn eu hysgolion a'u cymunedau. Mae'r gwirfoddolwyr ifainc yn falch iawn o dderbyn gwobr sy'n cydnabod eu hymrwymiad i helpu pobl eraill."