Hwyl y Pasg am ddim yn Oriel Science

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Helfa wyau Pasg ar thema gwyddoniaeth, crefftau’r Pasg ac efelychydd car rasio - digwyddiadau cyffrous ar gyfer gwyliau’r Pasg! Ac mae’r cwbl am ddim. Bydd Oriel Science Prifysgol Abertawe yn Ffordd y Dywysoges (Abertawe SA1 5HE) yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau tymhorol ymarferol am ddim.

Oriel science header

Bydd teuluoedd a phobl ifanc yn gallu galw heibio i’r lleoliad bob dydd o 10am - 4pm, o ddydd Sadwrn 8 Ebrill i ddydd Iau 13 Ebrill ac yna o ddydd Mawrth 18Ebrill i ddydd Sul 23Ebrill pan fyddan nhw’n gallu archwilio Gwyddoniaeth mewn modd llawn hwyl.

 

Bydd ymwelwyr hen ac ifanc yn gallu ymuno yn yr hwyl o ddarganfod ffeithiau gwyddonol diddorol yn ystod yr helfa wyau Pasg, tebyg i ba anifail sy’n gwneud “pw”, sgwâr, gyrru’r efelychydd car rasio a gwneud crefftau’r Pasg yn y gweithdy celf a chrefft.

Dywedodd Chris Allton, Cyfarwyddwr Oriel Science; “Rydym wrth ein bodd yn croesawu car Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe (SURE) yn ôl eto. Bu’n un o’n harddangosion mwyaf poblogaidd. Yn ogystal ag eistedd yn y car rasio olwynion agored a gyrru’r efelychydd o gwmpas trac rasio, gall ymwelwyr ag Oriel Science chwilio am Wyau Pasg ar thema wyddonol, heb sôn am weld a rhyngweithio gyda’n harddangosfa “Stori Amser” sy’n parhau.

Oriel Science SURE simulator

Dywedodd Marissa Gotsell, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Nawdd Perianneg Rasio Prifysgol Abertawe (SURE):  “Rydym wrth ein bodd yn dod ag arddangosyn SURE yn ôl i Oriel Science ar gyfer gwyliau’r Pasg. Dewch i brofi eich sgiliau gyrru ar yr un efelychydd a ddefnyddiwyd i brofi sgiliau ein gyrwyr, yn barod ar gyfer y cystadlaethau Myfyriwr Fformiwla."

 

 

Hefyd, bydd arddangosfa ‘Stori Amser’ y lleoliad yn parhau. I ble mae amser yn hedfan a gall hedfan go iawn? Ai dim ond rhith ydyw? Mae arddangosfa Stori Amser yn ateb y cwestiynau hyn i gyd.

Dan lygad barcud y Tardis a char DeLorean Back to the Future, gall ymwelwyr grwydro drwy’r arddangosion, ryngweithio, gwrando, edrych, cyffwrdd a chwarae yn gyffredinol gydag arddangosion ar thema Amser. Darganfyddwch sut y canfuwyd boson Higgs, a elwir yn aml yn “Ronyn Duw”, yn ffug ymarfer Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr CERN, gwyliwch dalpiau iâ yn gollwng yn yr Ynys Las, dysgwch sut i ddweud yr amser â chylchoedd coed. Edrychwch ar hanes y bydysawd wedi’i arddangos ar wal amser 30metr a gwrandewch ar synau gofod dwfn wrth i chi wylio fideo treigl amser o sêr y de.

Yn addas i bawb, cenhadaeth Oriel Science yw cyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i’r cyhoedd drwy arddangosfeydd sy’n ymwneud â thema wyddonol a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr i feddwl ac i archwilio’r effaith sydd gan wyddoniaeth a thechnoleg ar eu bywydau bob dydd.

Mae Oriel Science ar Ffordd y Dywysoges, Abertawe, SA1 5HE. Rhwng Sgwâr y Castell a Ffordd y Brenin, drws nesaf i Zinco Lounge.

Mynediad am ddim ac ar agor ar y Sadwrn a’r Sul, 10am tan 4pm. Ar gael ar gyfer ymweliadau ysgolion (yn ystod yr wythnos) drwy apwyntiad. Anfonwch e-bost at: s4science@swansea.ac.ukos gwelwch yn dda

Gwefan: www.orielscience.co.uk E-bost: orielscience@swansea.ac.uk

@OrielScience: facebook.com/OrielScience

Oriel Science sponors