Lansio canolfan fyd-eang i ddatrys argyfwng iechyd byd-eang llosgiadau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae canolfan fyd-eang newydd ar gyfer academyddion, sefydliadau byd-eang a gwasanaethau llosgiadau clinigol wedi cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y Ganolfan yw mynd i'r afael ag argyfwng anghofiedig ym maes iechyd byd-eang - llosgiadau - drwy leihau nifer ac effaith llosgiadau ledled y byd.

Sefydlwyd y Ganolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd mewn digwyddiad lansio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r Ganolfan wedi derbyn cyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) er mwyn sefydlu grŵp ymchwil iechyd byd-eang i drawma llosgiadau. Bydd yn arwain wrth ddatblygu strategaethau i leihau nifer yr anafiadau llosgi a darparu triniaethau fforddiadwy i achub bywydau mewn systemau iechyd â phrinder adnoddau, mewn amrywiaeth eang o leoliadau ledled y byd.

Problem Fyd-eang

Mae llosgiadau'n broblem ddifrifol ar gyfer y byd a bydd y Ganolfan yn gweithio gydag Interburns a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol  eraill, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, i ganolbwyntio ar wella mesurau i atal llosgiadau a pharodrwydd ar gyfer argyfwng mewn ardaloedd lle gwelir gwrthdaro ac anafiadau torfol o ganlyniad i losgi.

 International attendees of the WHO-EMT meeting on mass burn casualties

Arweinir y Ganolfan gan yr Athro Tom Potokar OBE, a fu gynt yn gweithio yng Nghanolfan Llawfeddygaeth Llosgiadau a Phlastig Cymru yn Ysbyty Treforys. Mae hefyd yn gyfarwyddwr Interburns, rhwydwaith rhyngwladol gwirfoddol o arbenigwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy'n gweithio i drawsnewid gofal ac atal llosgiadau mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig. 

Meddai'r Athro Potokar: "Er bod anafiadau llosgi'n cynrychioli her ryngwladol enfawr, mae'r cydweithrediad unigryw ac arloesol hwn yn gyfle mawr i drawsnewid y sefyllfa fyd-eang o ran llosgiadau, drwy hyfforddiant, ymchwil, atal ac adeiladu gallu. Ein targed yw adeiladu gallu a gwella ansawdd lle mae eu hangen er mwyn sicrhau effaith go iawn i achub bywydau, lleihau anableddau ac atal dioddefaint anferth."

Meddai Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd:  "Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn falch iawn o gynnal y fenter newydd hon ac rydym yn teimlo'n frwd iawn am y cyfleoedd i gyfeirio a dylanwadu ar bolisïau ac arferion â'r nod o leihau effaith ddinistriol llosgiadau ledled y byd. Mae ymrwymiad ac ymroddiad yr Athro Potokar yn y maes astudio hwn wedi cyflawni buddion sylweddol ar raddfa ryngwladol, a bydd sefydlu'r Ganolfan hon yn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith, yn enwedig mewn cymunedau a gwledydd cymharol ddifreintiedig, y mae'n fraint gan y Coleg eu cefnogi." 

 Professor Tom Potokar OBE,  director of Interburns

Athro Tom Potokar 

Ffeithiau am anafiadau llosgi byd-eang:

  • Mae'r risg o losgi'n uwch i bobl sy'n byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig nag ydyw i bobl mewn gwledydd incwm uchel.
  • Ym mhob gwlad, mae'r risg o losgiadau'n cyfateb i statws cymdeithasol-economaidd
  • Yn India, mae dros 1 filiwn o bobl yn dioddef mân losgiadau neu losgiadau difrifol bob blwyddyn
  • Mae bron 173,000 o blant Bangladesh yn dioddef mân losgiadau neu losgiadau difrifol bob blwyddyn
  • Mae lampau cerosin a chwcerau anniogel, ynghyd ag isadeiledd trydan gwael, yn cyfrannu'n sylweddol at faich anafiadau llosgi'n fyd-eang.