Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Peiriannydd Benywaidd Ifanc y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ymhlith un o chwech o beirianwyr benywaidd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Peiriannydd Benywaidd Ifanc y Flwyddyn 2017 y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Mae Ellie Wilson sy'n fyfyrwraig BEng Trydanol ac Electroneg ran-amser o Sir Benfro, yn gweithio ar hyn o bryd fel Technegydd Offeryniaeth a Rheoli yn SemLogistics, cyfleuster storio olew COMAH Haen Uchaf yn Sir Benfro, lle mae'n gyfrifol am osod a chynnal a chadw'r holl offeryniaeth a systemau rheoli ar y safle. 

Ellie WilsonMeddai Ellie: "Rwyf yn hynod falch o gyrraedd rownd derfynol Peiriannydd Benywaidd Ifanc y Flwyddyn. Mae'r gwaith hyrwyddo sy'n gysylltiedig â hyn yn ysbrydoli plant a menywod ifanc ac mae'n bwysig herio ystrydebau a mythau bod peirianneg yn broffesiwn sydd wedi'i ddominyddu'n llwyr gan ddynion. Mae gan fenywod gymaint i'w gynnig ac mae'n hanfodol ein bod yn hyrwyddo pynciau STEM yn gynnar mewn ysgolion ymhlith merched ifanc ac yn hyrwyddo peirianneg fel llwybr gyrfa cyffrous sy’n cynnig llawer o gyfleoedd".

Mae'r gwobrau diwydiant peirianneg mawreddog hyn, sy'n dathlu eu deugeinmlwyddiant eleni, yn cydnabod ac yn arddangos menywod ifanc sy'n gweithio mewn peirianneg fodern - a'u nod yw helpu i newid y canfyddiad mai gyrfa i ddynion yn bennaf yw peirianneg trwy gael gwared ar ystrydebau peirianneg hen ffasiwn o hetiau caled a phibellau seimllyd.   

Yn ogystal ag amlygu doniau peirianneg ymysg menywod, mae Gwobrau Peiriannydd Benywaidd Ifanc y Flwyddyn IET yn ceisio dod o hyd i fodelau rôl benywaidd sy'n gallu helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng sgiliau peirianneg a gwyddoniaeth yn y DU drwy hyrwyddo gyrfaoedd mewn peirianneg i fwy o ferched a menywod. Ar hyn o bryd mae menywod yn cynrychioli 9 y cant yn unig o'r gweithlu peirianneg yn y DU (ffynhonnell:  2016 Arolwg Sgiliau IET), y canran isaf yn Ewrop.

Meddai Jo Foster, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg:  "Mae menywod wedi'u tangynrychioli'n sylweddol o hyd mewn peirianneg ac mae'r Gwobrau hyn yn helpu i amlygu rhai o’r doniau gwych yn y DU. Mae'r ansawdd eleni mor gryf ag erioed a bydd yn anodd gwneud y penderfyniad terfynol.  

"Un o'r anawsterau wrth ddenu menywod i beirianneg yw'r canfyddiad o beirianneg fel gyrfa. Yn aml meddylir amdani fel gyrfa i ddynion sy'n cynnwys gwaith brwnt ac anneniadol. Ond mewn gwirionedd mae'n wahanol iawn. Mae Peirianneg yn yrfa gyffrous sy'n talu'n dda. Mae'n amrywiol ac yn greadigol ac mae'n cynnig cyfle i wneud rhywbeth sy'n newid bywydau – neu’r byd hyd yn oed".

Cyhoeddir enw'r enillydd yn seremoni Gwobrau Peiriannydd Benywaidd Ifanc y Flwyddyn y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ar y 7fed o Ragfyr yn IET Llundain:  Savoy Place