Oes estron yn byw yn eich gardd?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r wythnos rhywogaethau ymledol yn dod rhwng Mawrth 27ain ac Ebrill 2il, ond beth yw Rhywogaethau Ymledol, sut maen nhw’n cyrraedd ein gerddi, ein parciau a’n dyfrffyrdd, a pham ddylen ni boeni amdanyn nhw?

Oriel science header

Dewch i gyfarfod rhywogaethau ‘estron’ yn agos, gan gynnwys Cimwch Coch a Berdys Danheddog yn Oriel Science Prifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 1af Ebrill 2017 ar gyfer ein gweithdy Rhywogaethau Ymledol.

 

Fel rhan o Wythnos Rhywogaethau Ymledol 2017, bydd prosiectau Aquainvad-ED (www.aquainvad-ED.com) ac AquaWales (<http://aquawales.wix.com/aquawalescluster>) Prifysgol Abertawe yn cynnal diwrnod llawn hwyl lle byddwch yn gallu dylunio eich rhywogaethau ymledol eich hun, cymryd rhan mewn cwisiau, gwrando ar sgyrsiau gan ein Gwyddonwyr a gwneud Alien Goo i fynd adref gyda chi!

Dywedodd yr Athro Sonia Consuegra o Brifysgol Abertawe “Bydd ymwelwyr â’n gweithdy rhywogaethau ymledol yn gallu cyfarfod ein Gwyddonwyr, dysgu am ein hymchwil ar rywogaethau ‘estron’ a gweld rhai o’r anifeiliaid rydyn ni’n eu hastudio’n agos. Mae’r holl weithgareddau’n rhad ac am ddim ac yn addas i bob oedran. Byddwn yn Oriel Science yn Ffordd y Dywysoges o 10am i 4pm Ebrill 1af.”

Oriel Science Killer Shrimp Mae’r Cimwch Afon Arwyddol o America yn rhywogaeth estron sy’n achosi problemau enfawr mewn dyfrffyrdd yn y DU. Cyflwynwyd cimychiaid afon arwyddol drwy ddianc o ffermydd cimychiaid afon yn 1970 ac maen nhw’n dinistrio glannau afonydd drwy durio, bwyta rhywogaethau pysgod ifanc a chyflwyno afiechydon mae’n cimychiaid afon yn eu dal ac nad ydynt yn gwella ohono. Mae cimychiaid afon arwyddol yn tyfu’n gyflym ac maen nhw’n llawer mwy ymosodol nag ein cimychiaid afon brodorol yn y DU ac yn well am ganfod bwyd a lloches, gan olygu fod y nifer o gimychiaid afon arwyddol yn y DU wedi ffynnu ers 1970.

Oriel science Invasive species collecting  

 Y gwyddonydd Teja Muha yn casglu samplau o ddŵr o’r Afon Afan. Mae Teja yn gweithio yn y prosiect Aquainvad-ED ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n casglu dŵr er mwyn iddi ddadansoddi’r DNA sy’n cael ei gyflwyno yn y samplau er mwyn edrych am rywogaethau ‘estron’, fel berdys danheddog a chregyn gleision rhesog. Mae dadansoddi dŵr yn caniatáu i Teja fonitro pa rywogaethau ‘estron’ sy’n byw mewn afonydd gwahanol heb iddi orfod gweld yr anifeiliaid eu hunain byth.

Dywedodd Mary Gagen, Is-Gyfarwyddwr Oriel Science: “y peth diddorol am rywogaethau ymledol yw nad yw’r rhan fwyaf ohonynt wedi ymledu o gwbl, cyflwynwyd llysiau’r dail yn y DU gan y Fictoriaid yn yr 1800au, tra cyflwynwyd y Cimwch Afon Arwyddol i ffermydd pysgod yn yr 1970au. Mae monitro ecolegol yn bwysig iawn i ddeall pa effaith mae rhywogaethau o’r fath yn ei gael ar ein mannau gwyrdd a’n dyfrffyrdd”

Oriel Science Invasive species sampling

Y gwyddonydd Matteo Rolla yn casglu cregyn gleision rhesog ‘estron’ a berdys danheddog o Fae Caerdydd ar gyfer ei arbrofion. Mae Matteo yn gweithio gyda Teja ar y prosiect Aquainvad-ED ac yn cynnal arbrofion sy’n edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy rywogaeth ymledol hyn er mwyn deall yn well y synergeddau posibl a allai wneud y rhywogaethau estron hynny mor llwyddiannus.

 

 

 

 

Bydd Oriel Science, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe yn cynnal ei Ddiwrnod Rhywogaethau Ymledol ddydd Sadwrn 1 Ebrill, o 10am i 4pm yn Ffordd y Dywysoges, Abertawe, SA1 5HE. Ac mae’r cwbl yn RHAD AC AM DDIM!

Yn ogystal â mwynhau gweithgareddau’r Diwrnod Rhywogaethau Ymledol bydd ymwelwyr hefyd yn gallu parhau i ymweld ag arddangosfa ‘Stori Amser’ yn Oriel Science. Ble mae amser yn mynd? All amser hedfan mewn gwirionedd? Ai rhith yw amser? Mae arddangosfa Stori Amser yn ateb y cwestiynau hyn. 

Yn cael eu gwarchod gan y Tardis a char DeLorean Back to the Future, gall ymwelwyr grwydro drwy arddangosfeydd yn ymwneud â’r thema Amser, gan ryngweithio, gwrando, cyffwrdd a chwarae’n gyffredinol gyda’r arddangosfa. Dysgwch sut y canfuwyd boson Higgs, a elwir yn aml yn “ronyn Duw”, am y tro cyntaf mewn brasfodel o Wrthdrawydd Hadron Mawr CERN, gweld rhewlif yn hollti yn yr Ynys Las, dweud yr amser gyda chylchoedd blynyddol coed, gweld hanes y bydysawd yn cael ei arddangos ar wal amser 30 metr, a chlywed synau dyfnder y gofod wrth i chi wylio fideo treigl amser o sêr y de.

Yn addas ar gyfer pob oedran, cenhadaeth Oriel Science yw dod â rhyfeddodau Gwyddoniaeth i’r cyhoedd drwy arddangosfeydd ar thema wyddonol, a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr i feddwl ac archwilio i sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

  • Mae Oriel Science wedi’i lleoli ar Ffordd y Dywysoges, Abertawe, SA1 5HE. Rhwng Sgwâr y Castell a Ffordd y Brenin, y drws nesaf i Zinco Lounge.
  • Mae’n rhad ac am ddim i fynd mewn ar ddyddiau Sadwrn a Sul, 10am i 4pm. Ar gael ar gyfer ymweliadau ysgol (yn ystod yr wythnos) drwy apwyntiad. Anfonwch e-bost i s4science@swansea.ac.uk

Gwefan: www.orielscience.co.uk E-bost: orielscience@swansea.ac.uk

@OrielScience: facebook.com/OrielScience