Pencampwr STEM Prifysgol Abertawe yn annerch Gŵyl Wyddoniaeth Prydain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi rhoi darlith gyweirnod yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni a gynhaliwyd yn Brighton ar y testun Women in science: Changing culture, improving diversity.

"Mae'n falch gennyf gael cyfle i ddod i siarad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain ar ôl y profiad gwych a gawsom wrth gynnal Gŵyl 2016 yn Abertawe," meddai'r Athro Lappin-Scott sy'n blogio am faterion cydraddoldeb ac sydd wedi derbyn gwobr urddasol WISE am ei gwaith yn hyrwyddo menywod mewn gwyddoniaeth. 

Professor Hilary Lappin-ScottDywedodd wrth y gynulleidfa yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain: "Mae gennym bibell sy'n gollwng yn y byd academaidd - mae menywod yn diflannu. Nhw sy'n cyfrif am y mwyafrif o'r gweithlu addysg uwch ond caiff y rolau uwch eu llenwi gan ddynion gan amlaf.

"Y cwestiwn yw sut ydym yn newid hyn? Nid oes unrhyw fformiwla hud ar gyfer llwyddiant ond mewn marchnad gystadleuol fyd-eang mae'n hanfodol bod prifysgolion yn defnyddio'r holl ddoniau sydd ganddynt.

"Ym Mhrifysgol Abertawe defnyddiwyd strategaethau gwahanol, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai sydd â chost isel, i wirioneddol newid y diwylliant."  

Roedd y mentrau hyn yn cynnwys sefydlu rhwydwaith o fenyw hŷn i gefnogi a mentora eraill, ymgyrch ddeniadol Menywod Ysbrydoledig i nodi  Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a chefnogaeth i wobrau Athena Swan a Stonewall.

Hefyd, newidiodd y Brifysgol ei phrosesau dyrchafu, gan arwain at gynnydd o 40% yn nifer yr academyddion benywaidd sy'n cael eu dyrchafu i fod yn Athro neu’n Athro Cysylltiol.

Meddai’r Athro Lappin-Scott: “Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn cefnogi amrywiaeth ar bob lefel. Mae gennym ffordd hyr i fynd, gan fod hon yn siwrne ddiddiwedd, ond rydym yn falch o’r camau rydym wedi eu cymryd hyd yma, ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ymhellach”.