Prifysgol Abertawe ar chwe rhestr fer ar gyfer gwobrau Whatuni, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Whatuni eleni, gan gynnwys categori Prifysgol y Flwyddyn.

Whatuni 2017 logoMae'r tablau cynghrair myfyrwyr Whatuni wedi eu seilio ar filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr ac a gyhoeddwyd ar Whatuni.com.

Maent yn cwmpasu: Llety; Bywyd y Ddinas; Clybiau a Chymdeithasau; Cyrsiau a Darlithwyr; Rhagolygon Swyddi; Adnoddau Prifysgol; Gwasanaethau Cymorth; sgôr cyffredinol 'Prifysgol y Flwyddyn', a Rhyngwladol.

Eleni am y tro cyntaf cyflwynwyd dau gategori newydd: Ôl-raddedig a Rhoi yn Ôl.

Mae'r rhestrau yn ystyried barn dros 27,000 o fyfyrwyr mewn 130 o brifysgolion.

Eleni cyrhaeddodd 127 o brifysgolion y trothwy gofynnol ar gyfer cael eu hystyried ar gyfer Gwobr Dewis Myfyrwyr.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ei chynnwys ar y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

• Prifysgol y Flwyddyn

• Clybiau a Chymdeithasau

• Cyrsiau a Darlithwyr

• Rhoi yn Ôl

• Rhyngwladol

• Ôl-raddedig

Dywedodd Marcella Collins, Cyfarwyddwr Cyffredinol Whatuni.com: “Un o'r beirniadaethau mwyaf cyffredin a glywn gan fyfyrwyr yw ei bod yn rhy anodd iddynt lywio’i ffordd drwy dirwedd Addysg Uwch, ac felly dyma sydd bellach yn ein gyrru. Rydym yn cyflwyno data hanfodol i fyfyrwyr mewn ffordd sy'n hawdd iddynt ei ddeall ac yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau addysgiadol sydd yn trawsnewid eu bywydau”.

Bydd tablau cynghrair Whatuni 2017 yn cael eu cyhoeddi ar 6 Ebrill mewn seremoni wobrwyo yn Llundain. Gallwch ddilyn holl ddatblygiadau’r noson drwy’r hashnod #WUSCA.