Prifysgol Abertawe i noddi Sioe Awyr Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i chadarnhau fel prif noddwr Sioe Awyr Genedlaethol am ddim yr haf hwn.

Cynhelir y digwyddiad, sydd wedi'i drefnu gan Gyngor Abertawe, ddydd Sadwrn a dydd Sul, 1 a 2 Gorffennaf.

Cynhaliwyd y Sioe Awyr gyntaf yn 2007, a dyma fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Sioe Awyr Cymru gael ei chynnal yn Abertawe.

Y llynedd, roedd y digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe, gan ddenu dros 200,000 o wylwyr. Yn ogystal â gwylio'r Sioe Awyr o'r promenâd, roedd llawer o bobl wedi'i gwylio o ganol y ddinas, yn y Mwmbwls ac mewn nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.

Wales AirshowMeddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Rydym yn falch o groesawu Prifysgol Abertawe fel prif noddwr Sioe Awyr Cymru ar gyfer 2017.

"Bu Prifysgol Abertawe'n rhan o'r Sioe Awyr yn y gorffennol, gan noddi'r Red Arrows yn y digwyddiad, felly mae ei chael hi fel prif noddwr Sioe Awyr Cymru 2017 yn cryfhau partneriaeth y digwyddiad sydd eisoes wedi'i sefydlu.

"Fel bob amser, ein nod yw gwneud Sioe Awyr Cymru mor llwyddiannus a chofiadwy â phosib i'r miloedd o bobl leol, ymwelwyr â'r ddinas a'n noddwyr.

"Yn 2015, dywedom y byddem yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud y Sioe Awyr yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe er budd preswylwyr a busnesau. Mae cynnal y Sioe Awyr am y drydedd flwyddyn yn olynol yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni'r addewid honno."

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Dylai rhanbarth Abertawe gyfan fod yn falch bod Prifysgol Abertawe wedi'i henwi y Brifysgol Orau yng Nghymru a Phrifysgol Cymru'r flwyddyn yng Nghanllaw Prifysgolion 2017 y Times a gyhoeddir gan bapurau newydd y Times a'r Sunday Times. Fel rhan o'n dathliadau, rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â'm ffrindiau yng Nghyngor Abertawe i gefnogi Sioe Awyr Cymru.

"Mae ein Hadran Peirianneg Awyrofod yn cael ei chydnabod fel un o'r 200 orau yn y byd a'r seithfed gorau yn y DU, gyda nifer o'n staff a'n myfyrwyr academaidd yn gweithio ar brosiectau gyda chwmnïau mawr megis Rolls Royce ac Airbus, yn ogystal â'r car Bloodhound a fydd yn debygol o dorri'r record cyflymder tir eleni. Rydym yn eich annog i ddod ac ymweld â'n cyfleusterau rhagorol sydd ar gynnig yng nghampws Singleton a'r Bae, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i'n diwrnodau agored ar 17 Mehefin, 14 Hydref a 28 Hydref.

Roedd rhai o'r awyrennau a gymerodd ran yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru y llynedd yn cynnwys y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a MiG Rwsiaidd o'r Rhyfel Oer. Bydd manylion yr awyrennau a fydd yn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni'n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Ewch i www.sioeawyrcymru.com i gael y newyddion diweddaraf am Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.