Prifysgol Abertawe'n helpu i herio trais gan ddynion yn erbyn menywod

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ym 1991, penderfynodd grŵp bach o ddynion yng Nghanada y dylent fod yn gyfrifol am annog dynion eraill i herio trais yn erbyn menywod. Gwnaethant ddewis gwisgo rhuban gwyn fel symbol o gefnogaeth ar gyfer yr achos hwn, a heddiw mae ymgyrchoedd Rhuban Gwyn yn cael eu cynnal ledled y byd, gan gynnwys ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr wedi hyrwyddo ymgyrchoedd Rhuban Gwyn am flynyddoedd maith ac yn 2017, roedd ymwybyddiaeth o'r achos yn uwch nag erioed. Mae Kevin Child, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr, wedi bod yn Llysgennad Rhuban Gwyn am y ddwy flynedd diwethaf, ac arweiniodd ymgyrch y Brifysgol i recriwtio ei gydweithwyr gwrywaidd i fod yn llysgenhadon hefyd. Gwirfoddolodd 16 o ddynion am y rôl, gan gynnwys:

  • Myfyrwyr
  • Staff Academaidd a phroffesiynol
  • Dau bennaeth coleg (Peirianneg a Gwyddoniaeth)
  • Chwe chyfarwyddwr (Ystadau a Rheoli Chyfleusterau; Gwasanaethau Academaidd; Partneriaethau Academaidd; Cyllid a Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau; Prif Swyddog Gweithredu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe).

White Ribbon pledgesAr 29 Tachwedd, ymunodd Kevin a'i gydweithwyr o dîm BywydCampws â Thîm Heddlu De Cymru ar Gampws y Brifysgol a New Pathways i gynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn Nhŷ Fulton. Nod y digwyddiad oedd annog dynion i lofnodi addewid i "Beidio byth â chyflawni neu esgusodi trais gan ddynion yn erbyn menywod nac aros yn dawel yn ei gylch".

Llofnododd 100 o ddynion gardiau addewid "Ni ddylai dwylo wneud dolur" a chafodd pawb Ruban Gwyn i'w wisgo fel arwydd o'u hymrwymiad i'r achos.

Meddai Kevin: "Creodd y diwrnod amgylchedd ac amser gwerthfawr i gynnal nifer o sgyrsiau a thrafodaethau pwysig, gyda dynion a menywod o bob cefndir, ni waeth beth oedd eu cefndir ethnig, eu cenedligrwydd, eu tueddfryd rhywiol neu eu cred. 

I gyd-fynd ag Ymgyrch y Rhuban Gwyn, trefnodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 16 Diwrnod o Weithgarwch ar gyfer yr un achos hefyd. Mae'r ymgyrch yn erbyn trais ar sail rhyw, ac mae'n herio trais yn erbyn menywod a merched. Dan arweiniad y Llywydd, Chisomo Phiri, a'r Swyddog Lles, Shona Johnson, cynhaliwyd amrywiaeth eang o                                                                                                ddigwyddiadau yn ystod 16 diwrnod yr ymgyrch.

100 o addewidion y Rhuban Gwyn

Un o'r uchafbwyntiau niferus oedd gorymdaith Adennill y Noson o Dŷ Fulton, pan ymunodd Gwyneth Sweatman, Swyddog Menywod Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, â'r gorymdeithwyr. Ar ôl cerdded drwy Brynmill ac ar hyd Heol San Helen, daeth yr orymdaith i ben ar Stryd y Gwynt. Gyda menywod yn arwain y llafarganu, safodd dynion gyda nhw gan weiddi eu cefnogaeth i "Beidio byth â chyflawni neu esgusodi trais gan ddynion yn erbyn menywod nac aros yn dawel yn ei gylch."

 Reclaim the Night

Shona Johnson (Swyddog Lles), Kevin Child (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr) a Chisomo Phiri (Llywydd) yn cefnogi'r orymdaith Adennill y Noson.

Meddai Chisomo Phiri, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: "Mae 1 o bob tri o fyfyrwyr ar gampysau wedi dioddef ymosodiad rhywiol; mae dwy fenyw yn marw o ganlyniad i drais domestig bob wythnos a cheir 126 o achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yng Nghymru bob blwyddyn. Gwaetha'r modd, mae'n debygol y bydd rhaid i'n myfyrwyr fynd i'r afael â'r materion difrifol sy'n sail yr ymgyrch hon yn y dyfodol, felly mae'r ymgyrch hon yn bwysig iawn i mi. Roeddwn i am addysgu a pharatoi ein myfyrwyr am sut i ddelio â'r materion hyn a chynyddu ymwybyddiaeth fel y byddant yn gwybod pa adnoddau cymorth sydd ar gael."

"I mi, mae'n bwysig iawn dathlu menywod cryf a helpu menywod i deimlo eu bod wedi'u grymuso, er eu bod yn wynebu'r anawsterau hyn. Defnyddiwyd y lliw oren drwy gydol yr ymgyrch i amlygu'r dyfodol disglair a allai fod ar gael i fenywod, a gobeithio, drwy ein hymdrechion i godi ymwybyddiaeth, y bydd dioddefwyr yn gwybod bod dyfodol disglair yn aros amdanynt."