Rhodri Morgan: Prifysgol Abertawe'n cynnal digwyddiad i ddathlu ei fywyd a'i etifeddiaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Gwener 24 Tachwedd, bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, gwleidyddion blaenllaw, ac academyddion o fri ym maes gwleidyddiaeth Cymru, yn ymuno ag Academi Morgan Prifysgol Abertawe wrth iddi gynnal digwyddiad i ddathlu bywyd ac etifeddiaeth cyn Brif Weinidog Cymru a Changhellor Prifysgol Abertawe, Rhodri Morgan.

Rhodri MorganMae Academi Morgan, a enwyd ar ôl Rhodri Morgan, yn felin drafod newydd a sefydlwyd er mwyn mynd i'r afael â'r 'materion astrus' enbyd sy'n wynebu polisi cyhoeddus yng Nghymru a'r byd ehangach. Mae'r Academi, a leolir yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, yn gweithio gyda holl golegau'r Brifysgol, ac mae ei chylch gwaith yn cynnwys ymchwil, dadansoddi polisïau, ymgynghori, lledaenu gwybodaeth a hyfforddiant. Mae ei staff yn gwneud ymchwil a gomisiynwyd ac ymchwil 'awyr las' yn y gwyddorau cymdeithasol a'r celfyddydau a'r dyniaethau â'r nod o gyflawni effaith fel canolfan bolisi.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhelir ar Gampws y Bae, bydd yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn trafod rôl Rhodri fel Canghellor y Brifysgol, ac wedyn bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn siarad am etifeddiaeth Rhodri ym maes polisi. Bydd yr hanesydd, yr Athro Prys Morgan, yn rhannu ei atgofion am ei frawd, a bydd yr Athro Mike Sullivan, Cyfarwyddwr Academi Morgan, yn trafod ing a llawenydd ysgrifennu ar gyfer Rhodri Morgan, ac amdano - ar gyfer ei fywgraffiadur o'r cyn Brif Weinidog sydd ar fin cael ei gyhoeddi. 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth panel gyda Jane Hutt AC, David Melding AC, cyn AC Plaid Cymru, Jocelyn Davies, a'r Arglwyddes Jenny Randerson, a fydd yn rhannu eu hatgofion am weithio gyda Rhodri Morgan, fel cydweithwyr a gwrthwynebwyr. Yna gwahoddir aelodau'r gynulleidfa i ofyn cwestiynau i'r panel a gaiff ei gadeirio gan Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan.

Bydd Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, Syr Roderick Evans, yn cau'r digwyddiad drwy drafod sut bydd y Brifysgol ac Academi Morgan yn sicrhau bod etifeddiaeth Rhodri Morgan yn parhau.

Meddai Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan, "Mae Academi Morgan yn falch o gynnal y digwyddiad pwysig hwn i ddathlu cyfraniad unigryw Rhodri Morgan at hanes Cymru a'i berthynas arbennig â Phrifysgol Abertawe. Rydym yn ymrwymedig i barhau â'i etifeddiaeth drwy ddarparu'r dystiolaeth orau bosib i lunwyr polisi, yn seiliedig ar ymchwil o safon fyd-eang, i'w galluogi i ddatrys y problemau anodd niferus sy'n wynebu Cymru a'r byd yn y blynyddoedd i ddod." 

Yn ystod y digwyddiad, bydd Academi Morgan yn cyhoeddi eu cynlluniau i gydweithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal cynhadledd flynyddol er cof am Rhodri Morgan, gyda'r digwyddiad cyntaf i'w gynnal ym mis Medi 2018 yn Y Senedd, Bae Caerdydd.