Troseddegwr a chwaraeodd rhan allweddol yn datgelu’r gwir am drychineb Hillsborough i draddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar ddydd Mercher 22 Mawrth, mi fydd yr Athro Phil Scraton, y dyn a arweiniodd ymchwil Panel Annibynnol Hillsborough, yn traddodi darlith am ddim ym Mhrifysgol Abertawe, gan drafod yr ymchwiliad hir i drychineb 1989.

Teitl y ddarlith: Hillsborough: Resisting Injustice, Recovering Truth 

Dyddiad: 6pm - derbyniad gyda lluniaeth ysgafn o 5.30pm

Amser: Dydd Mercher 22 Mawrth

Lleoliad: Darlithfa Faraday, Campws Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

Professor Phil ScratonErs 1989, mae Phil Scraton wedi gweithio gyda'r teuluoedd a'r goroeswyr. Roedd yn ymgynghorydd cyfreithiol i’r teuluoedd yn ystod y cwestau, ac fe arweiniodd Banel Annibynnol Hillsborough, a arweiniodd at gyhoeddi’r adroddiad arloesol yn 2012.

Ym mis Ebrill 2016, ddaeth rheithgor y cwest i'r casgliad bod y 96 a fu farw yn y wasgfa yn stadiwm Hillsborough ar 15 Ebrill 1989 wedi’u lladd yn anghyfreithlon, gan nodi carreg filltir bwysig ym mrwydr y teuluoedd am gyfiawnder.

Caiff lyfr yr Athro Scraton, Hillsborough: The Truth, ei ystyried fel y cyfrif diffiniol o'r trychineb.

Yn y ddarlith gyhoeddus hon, bydd yr Athro Scraton yn myfyrio ar yr ymgyrch hirdymor am y gwirionedd, yn manylu ar ganfyddiadau helaeth y Panel, yn dadansoddi'r cwestau newydd, eu canlyniad, gwaith yr IPCC a'r achos dros erlyniadau. Yn olaf, bydd yn archwilio effaith ei ymchwil beirniadol a’r broses o ailsefydlu'r gwirionedd ar gyfer herio anghyfiawnder sefydliadol a dwyn sefydliadau'r Wladwriaeth i gyfrif.

Mi fydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ddarlith rhwng 7pm a 7.30pm.

Trefnir y ddarlith gan Gangen Cymru Cymdeithas Troseddeg Prydain, ar y cyd â Choleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe.

Mi fydd y ddarlith yn cychwyn am 6pm yn Narlithfa Faraday ar Gampws Parc Singleton. Darperir lluniaeth ysgafn o 5.30pm.

Oherwydd y galw uchel am docynnau, mae’n hanfodol eich bod yn archebu tocyn am ddim ymlaen llaw.

Archebwch yma.