Unig ŵyl genedlaethol y DU sy'n dathlu'r Dyniaethau yn dychwelyd i Abertawe am y bedwaredd flwyddyn yn olynol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Unwaith eto, Prifysgol Abertawe yw'r unig ganolfan yng Nghymru sy'n cynnal digwyddiadau Being Human, yr unig ŵyl genedlaethol yn y DU sy'n dathlu'r dyniaethau, ac mae'n falch o gael ei henwi'n un o ganolfannau'r Ŵyl am dair blynedd yn olynol - anrhydedd mae'n ei rannu â Nottingham. Canolfannau eraill yr Ŵyl yw Queen's Belfast, Dundee a Glasgow.

Bydd gweithgareddau cenedlaethol ar sail thema'r ŵyl eleni, Lost and Found, yn cael eu cynnal rhwng 17 a 25 Tachwedd 2017, gan nodi pedwaredd flwyddyn yr ŵyl. Dan arweiniad Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau; (AHRC), a'r Academi Brydeinig bydd yr ŵyl yn cyflwyno rhaglen orlawn o weithgarwch mewn cymunedau ledled y DU.

Bydd rhaglen Abertawe, Lleisiau, Wynebau a Lleoedd', yn ymdrin â'r thema 'Lost and Found' drwy ganolbwyntio ar yr agwedd datgelu, ailddarganfod ac atgoffa.  Gyda rhywbeth at ddant pawb, bydd yr ŵyl yn cynnig gweithgareddau creadigol a rhyngweithiol fel sgyrsiau i'r cyhoedd, gweithdai creadigol, perfformiadau ac arddangosfeydd. 

Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim drwy gydol yr ŵyl, gan gynnwys;

  • Ailddarganfod amwledau a demoniaid gwarcheidiolyr Hen Aifft;
  • Archwilio canrif o hanes Prifysgol Abertawe ac ail-greu adeilad hynaf Prifysgol Abertawe, Abaty Singleton!
  • Bydd dangosiad arbennig o'r ffilm a ganmolwyd gan y beirniaid, Don't Take Me Home, i'w ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda chyfarwyddwr arobryn y ffilm a chyn-fyfyriwr hanes o Brifysgol Abertawe, Jonny Owen.
  • Darlleniadau gan ddau o feirdd mwyaf cyffrous a pherthnasol y DU - Simon Armitage a Bardd Preswyl Radio 4, Daljit Nagra.
  • Arddangosfa a lansiad y llyfr, Pieces of a Jigsaw, casgliad unigryw o bortreadau o fyd y celfyddydau yng Nghymru gan Bernard Mitchell.

Trefnir holl ddigwyddiadau'r wythnos gan Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau  Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae cyfraniad Abertawe at Being Human yn tyfu bob blwyddyn. Mae'r cyfle i ymgysylltu mewn modd creadigol â'r cyhoedd ar amrywiaeth eang o bynciau wedi dod yn rhan allweddol o'n calendr ar gyfer mis Tachwedd ac yn ddigwyddiad mae'r brifysgol a'n cymuned yn edrych ymlaen yn fawr ato.

 Being Human 2017