Uwch Ddirprwy Is-ganghellor yn galw am weithredu cadarnhaol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod ym meysydd STEM

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn siarad mewn cynhadledd bwysig yn Llundain yfory (dydd Iau 30 Mawrth) a fydd yn hyrwyddo menywod sy'n gweithio ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Professor Hilary Lappin-Scott Bydd yr Athro Hilary Lappin-Scott yn siarad yn Fforwm Promoting Women in STEM 2017 Inside Government a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Hallam, lle bydd ei sgwrs yn canolbwyntio ar rôl addysg uwch wrth annog y genhedlaeth nesaf o fenywod i astudio pynciau STEM.

Cafodd yr Athro Lappin-Scott ei henwebu am Wobr Arwr WISE yn Ngwobrau WISE 2016 am ysbrydoli menywod i astudio a gweithio ym meysydd STEM. Bydd ei sgwrs yn amlygu'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn galw ar eraill i gymryd camau gweithredu cadarnhaol.

Gan ystyried tair prif thema'r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2016, 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus', sef arweinyddiaeth/dyrchafu, recriwtio a chadw, bydd hi'n archwilio sut mae'r rhain yn cael eu troi'n gamau gweithredu cadarnhaol yn y Brifysgol mewn meysydd megis: 

  • Gwaith mynediad uniongyrchol mewn cymunedau i gynyddu ymwybyddiaeth o bynciau STEM a cheisiadau i'w hastudio.
  • Cydweithio, y tu hwnt i'r Brifysgol, â  chyflogwyr a phartneriaid diwydiannol i gynyddu nifer y menywod ym meysydd STEM.
  • Ffyrdd arloesol y gall pobl a sefydliadau eu mabwysiadu i annog rhagor o ferched i astudio cyrsiau STEM ar lefel uwch a llwyddo'n well yn eu gyrfaoedd.

Bydd yr Athro Hilary Lappin-Scott hefyd yn tanlinellu rhai ymyriadau llwyddiannus, er enghraifft:

  • Cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol Athena SWAN ynghylch canran y menywod mewn timau uwch
  • Cyfethol menywod i bwyllgorau uwch os yw'r cydbwysedd rhwng y rhywiau'n wan
  • Cynnal 'gweithdai dyrchafu' ar gyfer menywod
  • Cyflwyno'r fenter 50:50 erbyn 2020 i gyflawni cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran arweinyddiaeth
  • Cynnal hyfforddiant gorfodol ar ragfarn anymwybodol, yn enwedig i aelodau paneli dyrchafu a dewis

Meddai'r Athro Lappin-Scott: "Mae angen amser i gyflwyno newid diwylliannol, ond mae pethau'n gwella ac, er nad oes unrhyw fformiwla hudol ar gyfer llwyddiant, mae effaith y llwyddiant hwn yn enfawr.  Rwy'n argyhoeddedig y gall arweinyddiaeth dda, sylw cyson i'r holl faterion, ymagwedd meddwl-agored ynghyd ag arloesi ac ymgysylltu â menywod a dynion helpu i drawsnewid sefyllfa menywod ym meysydd STEM yn yr ugeinfed ganrif ar hugain."