Yr Ysgol Reolaeth yn cynnal digwyddiad rhyngwladol ac yn croesawu arbenigwyr marchnata byd-eang

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe'n croesawu arbenigwyr marchnata byd-eang i Gampws y Bae wrth iddi gynnal cynhadledd flynyddol y Gymdeithas Brandio Lleoedd Ryngwladol.

Sefydlwyd y Gymdeithas Brandio Lleoedd Ryngwladol yn 2015 fel cymdeithas annibynnol o academyddion ac ymarferwyr proffesiynol sy'n ymwneud â datblygu a rheoli brandiau ar gyfer lleoedd, gan gynnwys dinasoedd, rhanbarthau, gwledydd a chyrchfannau.

Mae'r gynhadledd, a gynhelir ar Gampws y Bae y brifysgol ac yng Ngwesty'r Marriott o ddydd Mawrth tan ddydd Iau, yn dod ag academyddion, arbenigwyr proffesiynol a myfyrwyr twristiaeth a marchnata o Brifysgol Abertawe ynghyd.

Yr Athro Nigel Morgan, Pennaeth Rheolaeth Busnes yn yr Ysgol Reolaeth, sy'n gyfrifol am ddod â'r digwyddiad i'r ddinas. Dywedodd fod yr Ysgol wrth ei bodd yn croesawu cynhadledd mor bwysig.

‌Meddai'r Athro Morgan:"Rydym yn ffodus i allu croesawu arbenigwyr brandio lle o bedwar ban y byd i Abertawe, gan gynnwys Geerte Udo o Amsterdam Marketing a Don Dioko, Athro a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Ryngwladol Macau yn Tsieina.Mae Macau yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Vegas Tsieina" neu "Monte Carlo'r Dwyrain" ac mae'n enghraifft ragorol o frandio lle ar raddfa enfawr.

"Yn ystod y gynhadledd, bydd arbenigwyr brandio o'r cymunedau academaidd a phroffesiynol a llunwyr polisi’n dod ynghyd i drafod yr agwedd hynod ddiddorol hon ar farchnata - o dwristiaeth, datblygiad economaidd, trefnu digwyddiadau, rheoli treftadaeth, dylunio gofodol, diplomyddiaeth gyhoeddus i ddaearyddiaeth ddynol.

"Yn agor y gynhadledd bydd prif anerchiad gan Mari Stevens, Cyfarwyddwr Marchnata Llywodraeth Cymru, a fydd yn siarad am sut mae Cymru'n datblygu ei strategaeth frandio drwy Flwyddyn y Môr yn 2018 a lansiad diweddaraf Ffordd Cymru.

"Bydd myfyrwyr PhD o'r Ysgol Reolaeth yn bresennol hefyd ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau am effaith yr oes ddigidol a'r cyfryngau cymdeithasol ar sut rydym yn 'marchnata' ein dinasoedd, ein rhanbarthau a'n gwledydd.

"Mae'r digwyddiad hwn yn adeiladu ar lwyddiant cynhadledd gyntaf y Gymdeithas Brandio lleoedd Ryngwladol, a gynhaliwyd yn Llundain y llynedd, a digwyddiadau blaenorol yn Aosta, Beijing, Caerdydd, Corfu, Macau, Poznan a Stockholm.

Meddai'r Athro Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth : "Gosodwyd yr Ysgol Reolaeth  ymysg yr 20 sefydliad gorau yn y DU am farchnata eleni, a dangosodd canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 fod y Brifysgol wedi cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau am ymchwil.

"Rwyf wrth fy modd bod ein hymrwymiad i ddysgu trawsnewidiol ac effaith fyd-eang ein hymchwil yn cyd-fynd yn berffaith â chynnal digwyddiad mor bwysig ac uchel ei fri. Rydym yn falch o gynnal y gynhadledd a'n gobaith yw y bydd ein myfyrwyr yn elwa o fod yn rhan o drafodaethau mor flaengar."

Cynhelir Cynhadledd 2017 y Gymdeithas Brandio Lleoedd Rhyngwladol rhwng dydd Mawrth, 5 Rhagfyr, a dydd Iau, 8 Rhagfyr, yng Ngwesty Marriott Abertawe ac ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.