Agor sefydliad dur a metelau newydd ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, (dydd Iau 8 Chwefror) cymerwyd cam pwysig ymlaen i ddiogelu dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru trwy agor Sefydliad Dur a Metelau newydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Agorwyd y sefydliad, a fydd yn arweinydd byd-eang mewn ymchwil dur a metelau, gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Bydd y ganolfan arloesol ac ymchwil o’r radd flaenaf yn cydweithio â’r diwydiant a chanolfannau rhagoriaeth eraill yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang i yrru arloesedd mewn cynnyrch a pherfformiad i greu diwydiant dur a metelau sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif.

Crëwyd y sefydliad o ganlyniad i'r bartneriaeth strategol rhwng Tata Steel a Phrifysgol Abertawe. Maent wedi llofnodi contract cydweithredu tymor hir i'r Brifysgol ddarparu gwasanaethau ymchwil ac arloesol i'r cwmni. Mae Tata wedi rhoi amrywiaeth eang o offer ymchwil i'r Brifysgol ac mae'n darparu 45 o staff ymchwil a datblygu i weithio ochr yn ochr â 20 o staff ymchwil y Brifysgol newydd.

Mae’r Sefydliad Dur a Metelau sydd wedi’i lleoli ar gampws Parc Singleton y Brifysgol yn rhagflaenydd i Ganolfan Arloesi Dur Cenedlaethol y DG a fydd yn cael ei hariannu trwy Fargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Disgwylir i’r ganolfan newydd fod yn weithredol erbyn 2020.

Ymunodd Mr Bimlendra Jha, Swyddog Gweithredol Tata Steel UK a’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, â’r Prif Weinidog ar gyer y lansiad.

Meddai’r Athro Richard. B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae dur yn ddiwydiant sylfaen sy'n cefnogi cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu ac adeiladu strategol. Mae diwydiant dur ffyniannus yn hanfodol i sylfaen weithgynhyrchu ffyniannus yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol. Mae ymchwil ac arloesedd yn golygu y gall dur fod yn un o brif ddiwydiannau’r 21ain Ganrif, gan ddarparu cynhyrchion newydd, gwella lefelau perfformiad a phosibiliadau ailgylchu.

"Mae Prifysgol Abertawe bob amser wedi bod ar flaen y gad o ran arloesi yn y diwydiant metelau. Mae hynny'n parhau i fod yn wir heddiw. Mae gennym gyfoeth o arbenigedd, a rhwydwaith cyfoethog o bartneriaethau o fewn y diwydiant. Rydym yn frwd dros weithio gyda diwydiant a phartneriaid ymchwil i adeiladu dyfodol dur llwyddiannus a chynaliadwy trwy ragoriaeth arloesi a phobl dalentog”.

Mi fydd y sefydliad yn gweithio gyda phrifysgolion Caergrawnt, CRM, Imperial, Warwick a Sheffield, Caerdydd a De Cymru.

Bydd y sefydliad yn darparu gwasanaeth ymchwil ac arloesi i: Celsa Steel, Calsonic – Kansei, Crown Packaging, Darlow Lloyd, Gestamp-Tallent, Harsco, Sandvik Osprey, Royal Mint, Tata Steel, Tarmac Lafarge, Timet, Vale and Wallcolmonoy, a Weartech.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr diflino i ddiwydiant dur Cymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn buddsoddi dros £2 miliwn yn y cyfleuster newydd hwn.

“Mae'r sefydliad yn arwydd clir nad yw dur Cymru yn ddiwydiant sy’n perthyn i’r gorffennol, mae'n ddiwydiant i'r dyfodol. Bydd cynyddu ymchwil a datblygu yn y sector dur yn helpu i adeiladu gallu a chystadleurwydd y diwydiant a mynd i'r afael â heriau yn y dyfodol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y sefydliad yn gweithio gyda busnesau, prifysgolion, colegau ac ochr yn ochr â ni yn y Llywodraeth i yrru arloesedd a helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n diwydiant dur”.