Beirniaid Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2018 wedi'u cyhoeddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r panel beirniadu nodedig yn cynnwys nofelwyr, dramodwyr, awduron, bardd a chyfarwyddwr gŵyl ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2018 mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, un o wobrau mwyaf nodedig y byd i awduron ifanc.

Dyfernir y wobr o £30,000, a ddechreuodd dderbyn cyflwyniadau ar y 4 Medi 2017, am y gwaith llenyddol gorau cymwys a gyhoeddwyd yn yr iaith Saesneg gan awdur sy'n 39 oed neu'n iau,

Nod Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a lansiwyd yn 2006, yw annog doniau creadigol newydd yn fyd-eang. Mae enillwyr blaenorol wedi dod o Gymru, Lloegr, UDA, Fietnam ac Awstralia ac maent yn cynnwys: Fiona McFarlane (The High Places [Farrar, Straus, Giroux (UDA) and Sceptre (DU)], Max Porter (Grief is the Thing with Feathers [Faber & Faber]), Joshua Ferris (To Rise Again at a Decent Hour [Penguin]); Claire Vaye Watkins (Battleborn [Granta]); Maggie Shipstead (Seating Arrangements [HarperCollins]); and Rachel Trezise (Fresh Apples [Parthian]).

Y Panel Beirniadu ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas  2018:

  • Dai Smith CBE (cadeirydd y panel):  hanesydd ac awdur ar gelfyddydau a diwylliant Cymru; Cadeirydd Ymchwil Raymond Williams er Anrhydedd yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Rachel Trezise: nofelydd a dramodydd arobryn.
  • Kurt Heinzelman: bardd, cyfieithydd ac ysgolhaig; athro ym Mhrifysgol Tecsas yn Awstin
  • Namita Gokhale: awdur, cyhoeddwr a chyfarwyddwr gŵyl; awdur 16 o lyfrau; cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth ZEE Jaipur; Cyfarwyddwr Llyfrau Yatra.
  • Paul McVeigh: dramodydd, cyfarwyddwr ac awdur arobryn; cyfarwyddwr cysylltiol  Word Factory; sefydlwr Gŵyl Straeon Byr Llundain.

Beirniaid Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2018Meddai'r Athro Dai Smith, Cadeirydd Ymchwil Raymond Williams er Anrhydedd yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae panel y beirniaid ar gyfer 2018 dan fy nghadeiryddiaeth ar gyfer y dasg aruthrol hon yn dod â phrofiad o Gymru a'r byd, o ymarfer ysgrifennu creadigol mewn rhyddiaith a barddoniaeth, o ddrama a chyfathrebu, o ddisgwyliadau darllenwyr a risgiau awduron, ac, wrth gwrs, o amrywioldeb Dylan ei hun. Bydd yn anodd dilyn panel y llynedd a ddewisodd lyfr Fiona McFarlane o straeon byr, The High Places, ond mae llwyth o ymgeiswyr eisoes ar gyfer anrhydedd anhygoel ennill Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn Abertawe ym mis Mai'r flwyddyn nesaf.”

Caiff enw'r enillydd ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo derfynol yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, Cymru, ar 10 Mai 2018. 

Y Beirniaid

Mae’r Athro Dai Smith CBE yn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru. Fel Darlledwr mae wedi ennill nifer o wobrau am raglenni dogfen celfyddydol a hanesyddol a rhwng 1992 a 2000 ef oedd Pennaeth Rhaglenni BBC Wales. Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd ef yw Cadair Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. 

Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016, ac ef yw Golygydd Cyfres Llyfrgell Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y clasuron.  Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On, ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o straeon byrion gorau o Gymru, Story I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru. Cyhoeddwyd ei waith ffuglen diweddaraf, y nofel What I Know I Cannot Say, a’r straeon byrion cysylltiedig All That Lies Beneath, gan Parthian Books yn 2017.

Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.

Mae Rachel Trezise yn nofelydd ac yn ddramodydd o Gwm Rhondda yn ne Cymru. Enillodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl le ar restr Orange Futures yn 2001 ac yn ddiweddar cafodd ei hychwanegu at gyfres Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Enillodd ei chasgliad ffuglen fer gyntaf First Apples y Wobr Dylan Thomas Ryngwladol Gyntaf yn 2006.  Enillodd ei hail gasgliad ffuglen byr Cosmic Latte i Wobr Darllenwyr Edge Hill yn 2014. Ei dramâu llwyfan yw Tonypandemonium ac We’re Still Here a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013 a 2017.  Cyhoeddir nofel newydd, Wonderful, ym mis Mehefin 2018 ac mae casgliad newydd o straeon byrion a dwy ddrama ar y gweill.

Mae’r Athro Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig. Ei lyfr diweddaraf yw Whatever You May Say ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton.

Yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Texas-Austin yn arbenigo mewn Barddoniaeth a Barddoneg ac athro yn Michener Center for Writers, ef hefyd yw cyn Brif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL), a chyd-sylfaenydd a Golygydd Cynghorol Bat City Review ers tro.  

Mae Namita Gokhale yn awdur, cyhoeddwr a chyfarwyddwr gwyliau Indiaidd. Mae hi’n awdur un ar bymtheg o lyfrau gan gynnwys naw o lyfrau ffuglen. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Paro: Dreams of Passion am y tro cyntaf yn 1984 gan barhau’n glasur cwlt hyd heddiw. Mae’r drioleg Himalayaidd yn cynnwys Things to Leave Behind, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n cael ei hystyried fel ei nofel fwyaf uchelgeisiol hyd yma. Mae hi wedi gweithio'n helaeth ar chwedlau Indiaidd a hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr ar gyfer darllenwyr ifanc.

Namita yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, a ystyrir yn yr ŵyl lenyddol am ddim fwyaf yn y byd, yn ogystal ag 'Mountain Echoes', yr Ŵyl Lenyddiaeth Fwtan blynyddol. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr Yatra Books, cwmni cyhoeddi sy'n arbenigo mewn cyfieithu.

Dechreuodd Paul McVeigh ei yrfa ysgrifennu ym Melfast fel dramodydd cyn symud i Lundain i ysgrifennu comedi a gafodd ei berfformio yng Ngŵyl Caeredin ac yn theatrau’r West End Llundain. Mae ei straeon byrion wedi cael eu darllen ar BBC Radio 3, 4 a 5 a chafodd y stori 'Hollow' ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Stori Fer y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Iwerddon yn 2017.

Enillodd ei nofel gyntaf The Son gwobr Nofel Gyntaf The Polari a chafodd ei chynnwys ar restrau byrion nifer o wobrau eraill gan gynnwys gwobr Prix du Roman Cezam yn Ffrainc. Mae’n Gyfarwyddwr Cysylltiol Word Factory, sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer rhagoriaeth yn y stori fer ac ef yw sylfaenydd Gŵyl Straeon Byrion Llundain. Mae gwaith Paul wedi cael ei gyfieithu i saith iaith.