Cwmni technoleg dŵr byd-eang, Hydro Industries, yn cyhoeddi cydweithrediad cyffrous newydd ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae un o fusnesau Cymru sy'n tyfu gyflymaf wedi cyhoeddi cydweithrediad ymchwil newydd cyffrous ar y cyd â Phrifysgol Abertawe.

Mae'r cwmni technoleg dŵr, Hydro Industries, a leolir yn ne-orllewin Cymru, yn prysur greu enw iddo ei hun fel arweinydd byd-eang ym maes triniaeth dŵr. Mae'n ymfalchïo mewn datblygu systemau blaengar i ddatrys problemau brys sy'n gysylltiedig â llygredd dŵr a phrinder dŵr ledled y byd.

Mae'r busnes, a leolir yn Llangennech, yn cyfrif Ford, Shell, T&T Salvage a Harsco ymysg ei gleientiaid a chyhoeddodd ei bartneriaeth ymchwil ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn nigwyddiad blynyddol Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU (UKSPA) a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe'r wythnos hon.

Professor Marc Clement and Wayne PreeceWrth annerch y cynadleddwyr, dywedodd Wayne Preece, Prif Weithredwr Hydro Industries, y bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar chwilio am atebion blaengar i heriau dŵr byd-eang, drwy ymchwil a datblygu cydweithredol.

Meddai: "Rydym wrth ein boddau'n cael cyfle i weithio gydag un o brifysgolion gorau'r DU. Dyma ein partneriaeth gyntaf ag academyddion, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn helpu ein rhanbarth i arwain y byd mewn arloesi ac ymchwil ym maes dŵr a masnacheiddio’r canlyniadau.

Ychwanegodd Mr Preece: "Mae gwybodaeth ac arbenigedd Hydro yn seiliedig ar flynyddoedd maith o brofiad yn y diwydiannau dŵr a'r amgylchedd. Rydym bellach yn cymryd cam beiddgar newydd i sicrhau y gallwn barhau i arloesi a datblygu fel busnes. Er bod ein busnes craidd yn canolbwyntio ar y farchnad dŵr gwastraff diwydiannol, rydym hefyd yn awyddus iawn i ddefnyddio ein technoleg arloesol i ddarparu dŵr yfed glân a diogel i bobl lle mae angen enbyd amdano ledled y byd."

Mae tua 700 miliwn o bobl ledled y byd heb ddŵr yfed glân. Mae Hydro Industries wedi gweithio yn rhai o amgylcheddau mwyaf heriol y byd, megis Swdan, Somalia a rhanbarthau India, i ddarparu dŵr glân lle mae ei angen mwyaf.

Mae'r Athro Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi canmol yr agwedd ddyngarol ar waith Hydro Industries.

Meddai'r Athro  Clement: "Mae Hydro yn enghraifft wych o arloesi a llwyddiant masnachol Cymreig yn cydweithio i helpu'r rhai mewn angen mwyaf ledled y byd.

"Gyda thwf poblogaeth, newid yn yr hinsawdd a llygredd diwydiannol yn bygwth ansawdd a chyfanswm y dŵr sydd ar gael at ddefnydd dynol, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'r arweinydd byd-eang hwn ym maes technoleg dŵr i gyflawni cyflenwad dŵr diogel a dibynadwy.

"Y dyddiau hyn, ni ddylai cyflenwad dŵr glân gael ei ystyried yn foeth.”

"Mae'r Ysgol Reolaeth  yn ymrwymedig i ysgogi ymchwil, arloesi ac entrepreneuriaeth drwy'r mathau hyn o bartneriaeth â diwydiant, ac edrychwn ymlaen at greu sylfaen gadarn o ymchwil a datblygu ym maes dŵr gyda Hydro yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe."

Mae'r Ysgol Reolaeth  yn un o'r 10 ysgol reolaeth orau yn y DU o ran Effaith Ymchwil, a gwnaeth gyfraniad allweddol at ddatblygu a sicrhau Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.

Croesawodd yr Athro Marc Clement gynadleddwyr UKSPA i Brifysgol Abertawe yn ystod cynhadledd ddeuddydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU (UKSPA) ddydd Iau a dydd Gwener, 25 a 26 Ionawr.

Siaradodd yr Athro Clement am hynt yr 11 prosiect sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig â Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James. Meddai'r Athro  Clement: "Mae'r Fargen Ddinesig wedi rhoi hwb i broffil a momentwm y rhanbarth hwn, gan annog llawer o bartneriaethau byd-eang newydd megis ein cydweithrediad â Hydro Industries.

"Mae'r rhanbarth hwn yn creu enw iddo ei hun fel arweinydd mewn arloesi, gan brofi cysyniadau newydd ac yna eu masnacheiddio ar gyfer marchnad fyd-eang.

"Rydym wedi dechrau gwaith ar Ganolfan Arloesi Rhanbarthol yr Ysgol Reolaeth a leolir yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd yn caniatáu i ni gynyddu ein rhagoriaeth academaidd y tu allan i Gampws y Bae - yng nghanol y ddinas - ac yn ein lleoli'n agos at ranbarth digidol ac arena ddigidol dan do Cyngor Abertawe.

"Yn bellach i'r gorllewin, mae prosiect Pentref Lles a Gwyddor Bywyd Llanelli yn Sir Gaerfyrddin yn mynd rhagddo'n dda hefyd, drwy weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a dialog gyda darpar bartneriaid prosiect.”