Hwb o £8m gyda chefnogaeth yr UE i sbarduno ymchwil arloesol i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, [16.02.18] dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, y bydd busnesau gweithgynhyrchu Cymru yn elwa ar £8m yn ychwanegol i ehangu cynllun i'w helpu i gael mynediad at arbenigedd o'r radd flaenaf er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.

Bydd cynllun ASTUTE 2020 Prifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth gwerth £4m o gyllid yr UE, yn helpu i gynyddu'r cydweithio rhwng cwmnïau a phrifysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan er mwyn mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Y nod yw ysgogi cynhyrchiant a thwf yn y diwydiant drwy ddatblygu technolegau cynaliadwy newydd sydd â gwerth uwch, gwasanaethau a nwyddau cystadleuol ar gyfer y farchnad fyd-eang.

EDRFMae'r prosiect eisoes ar waith yn y Gogledd, y Gorllewin ac yng Nghymoedd y De. Bydd y cyllid ychwanegol gan yr UE yn golygu y bydd modd i  ASTUTE 2020 gael ei gyflwyno i gefnogi busnesau yng ngweddill Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Sir y Fflint a Wrecsam. Daw gweddill y cyllid o brifysgolion Cymru sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Bydd buddsoddi yn ein sector gweithgynhyrchu er mwyn hybu dyfeisgarwch a datblygu technolegau a chynhyrchion arloesol yn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y diwydiant, ynghyd â chyfleoedd cyflogaeth newydd."

Dywedodd cyfarwyddwr gweithrediadau ASTUTE 2020, yr Athro Johann Sienz: "Rydyn ni'n falch iawn o allu ymestyn ymchwil ASTUTE 2020, a bydd hyn yn galluogi twf trawsnewidiol a chynaliadwy yn niwydiannau gweithgynhyrchu Cymru. Gan ganolbwyntio ar ddatblygu a mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu yn y dyfodol, rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio â mwy o gwmnïau sydd â'r nod o ysgogi a rhoi hwb i dwf busnesau yn y rhanbarth."

Hyd yn hyn, mae dros 30 o gwmnïau wedi bod yn rhan o'r ymchwil drwy ASTUTE 2020 gan gynnwys meysydd cydrannau gweithgynhyrchu megis cyfarpar meddygol, modurol ac awyrofod.

Woman working on engine production line

Un enghraifft o gydweithio o'r fath yw gydag Aluminium Lighting Company (ALC) lle datblygwyd dyfais electronig o'r radd flaenaf sy'n gallu casglu data cynnal a chadw a pherfformiad ar golofnau goleuo, fel y rheini sy'n cael eu gosod ar hyd ffyrdd, yn fwy effeithlon a diogel.

Ar hyn o bryd mae perfformiad a chyflwr strwythurol colofnau goleuo yn cael eu hasesu drwy archwiliadau gweledol a ffisegol, sy'n gallu cymryd llawer o amser ac amharu ar y gwasanaeth ar y ffyrdd, y rheilffyrdd ac i gerddwyr. Bydd y ddyfais newydd yn golygu y bydd modd monitro ac asesu cyflwr y colofnau golau o bell heb yr angen i gynnal archwiliadau ffisegol arferol. Gallai dyfais o'r fath ddod yn rhan annatod o gynhyrchion ALC yn y dyfodol, ac mae'n bosibl y byddai'n cael ei ôl-osod ar golofnau goleuo presennol.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr ALC, Craig Williams: "Mae rhaglen ASTUTE 2020 yn golygu y gallwn gael mynediad at wybodaeth arbenigol nad oes gennym ar hyn o bryd. Wrth weithio gyda Phrifysgol Abertawe, rydym yn bwriadu gweithredu cysyniadau deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a rhwydweithio niwral wrth ddatblygu a mireinio ein cynhyrchion a'n gwasanaethau newydd cyffrous."

Mae ASTUTE 2020 yn gynllun gwerth £22.6m drwy Gymru gyfan sy'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd a De Cymru ynghyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.