Oriel Science ymysg prif atyniadau'r Ŵyl Benwythnos i Deuluoedd, Jamborî!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewch draw i arddangosfa gyffrous Oriel Science Prifysgol Abertawe yn yr ŵyl i'r teulu, Jamborî, yng Nghaffi'r TechHub am brynhawn o hwyl wyddonol i'r teulu cyfan.

Oriel Science Jambori poster 2

Cewch gyfle i wneud gŵ, creu cymylau mewn potel a darganfod egni canonau fortecs yn y digwyddiad am ddim hwn a gynhelir ddydd Sadwrn 28 Ebrill rhwng 11am a 4pm. Lleolir y Caffi oddi ar y Stryd Fawr yng nghanol dinas Abertawe.

Bydd y TechHub, mewn cydweithrediad â Volcano Theatre, yn cynnal cyfres o arddangosiadau byw a gweithdai a gweithgareddau technegol/gwyddonol drwy gydol y dydd.

Meddai Chris Alton, Cyfarwyddwr Oriel Science: "Mae'n wych bod Oriel Science yn cael bod yn rhan o'r Ŵyl Jamborî. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ychwanegu rhywfaint o gyffro gwyddonol at y digwyddiad hwn i'r teulu. Dewch draw i arddangosfa Oriel Science yn y TechHub i wneud sleim a dysgu rhywfaint o wyddoniaeth ar yr un pryd!"

Meddai Sarah Fogel, Rheolwr Digwyddiadau Cymunedol TechHub Abertawe: "Mae’n bleser mawr gennym groesawu Oriel Science yn ôl i'r TechHub ar gyfer Gŵyl y Jamborî ddydd Sadwrn 28 Ebrill. Yma yn y TechHub, rydym yn deall pwysigrwydd hyrwyddo meysydd STEM i blant, nid yn unig am eu bod yn cynnig cyfleoedd gwych o ran swyddi, ond hefyd am fod ein dyfodol yn dibynnu ar feithrin y genhedlaeth nesaf o uwch-sêr STEM! Bydd yr ŵyl yn cyfuno sgiliau gwerthfawr a ffyrdd blaengar o feddwl, drwy annog pobl o bob oedran i gael hwyl wrth ddysgu mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. I rai, efallai bod hynny'n golygu dysgu gwyddor sleim, ac i eraill gall olygu darganfod sut i wneud cwmwl mewn potel. Dyna rai yn unig o'r gweithgareddau byddwn yn eu harchwilio yn ystod yr ŵyl!"