Prifysgol Abertawe i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cynnal pum digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli eleni, fel rhan o'i phartneriaeth barhaus gyda'r ŵyl gelfyddyd byd-eang.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 24 Mai a 3 Mehefin, ac am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl, mi fydd digwyddiadau cyfrwng Cymraeg yn cael eu cynnal fel rhan o gyfres y Brifysgol.

O wleidyddiaeth, yr amgylchedd, barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg, mae'r digwyddiadau'n cynnwys ystod o ysgrifenwyr enwog rhyngwladol, a meddyliau mawr o bob cwr o Gymru.

Yn cynnwys dros 600 o ysgrifenwyr gorau’r byd, gwneuthurwyr polisi byd-eang, ac arloeswyr mewn 800 o ddigwyddiadau ar draws 11 diwrnod, mae Gŵyl y Gelli yn arddangos y syniadau diweddaraf yn y celfyddydau, y gwyddorau a materion cyfoes, ochr yn ochr ag amserlen gyfoethog o gerddoriaeth, comedi ac adloniant i bobl o bob oedran. Bydd toreth o awduron newydd yno i lansio’u gwaith newydd, a bydd rhaglenni HAYDAYS a #HAYYA yn rhoi cyfle i ddarllenwyr ifanc gyfarfod â’u harwyr a bod yn greadigol.

Hay Festival sign

 Y pum digwyddiad a gynhelir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe:

  • Mi fydd enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2018 yn ymuno â chadeirydd y panel beirniadu, Dai Smith, i drafod y gyfrol fuddugol. Mae’r rhestr fer yn cynnwys Kayo Chingonyi, Carmen Maria Machado, Gwendoline Riley, Sally Rooney, Emily Ruskovich a Gabriel Tallent.
  • Bydd yr actor a’r ymgyrchydd Michael Sheen yn trafod goblygiadau Brexit yng nghwmni Dr Simon Brooks, yr Athro Daniel G. Williams, Dr Angharad Closs Stephens, a’r Athro Jasmine Donahaye.
  • Rob Penhallurick, awdur Studying Dialect, fydd yn trafod yr iaith Saesneg gyda’r gynulleidfa, gan ddadansoddi pam fod tafodiaith yn ein hudo cymaint.
  • Wrth i Gymru nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr, mi fydd yr Athro Brifardd Alan Llwyd  o Academi Hywel Teifi, a ysgrifennodd y ffilm Hedd Wyn, yn ymuno â Dr Aled Eirug o Academi Morgan i drafod effaith y rhyfel. Y bardd, darlledwr ac aelod blaenllaw o’r ymgyrch i sefydlu Academi Heddwch Cymru, yr Athro Mererid Hopwood fydd yn cadeirio’r drafodaeth.
  • Yr arbenigwr byd-eang ar newid hinsawdd, yr Athro Siwan Davies, fydd yn trafod y gyfres ddogfen Her yr Hinsawdd yng nghwmni cynhyrchydd y gyfres, Elin Rhys. Yn ystod y sgwrs, bydd y ddwy yn ystyried pwysigrwydd a sialensiau ymgysylltu ymchwil gwyddonol â'r cyhoedd.

Meddai’r Athro John Spurr, pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein partneriaeth gyffrous a pharhaus gyda Gŵyl y Gelli yn rhoi'r cyfle i ni arddangos gwaith nifer o arbenigwyr Abertawe ar draws ystod o bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a'r amgylchedd. Rydym hefyd yn falch unwaith eto y bydd enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, y wobr fwyaf i ysgrifenwyr ifanc, yno i drafod y gyfrol fuddugol. Eleni, bydd Michael Sheen, cymrawd anrhydeddus a chyfaill y Brifysgol, yn sôn am Gymru ar ôl Brexit gyda phanel o academyddion Abertawe - digwyddiad fydd yn sicr o ddenu diddordeb eang”.

Meddai Peter Florence, cyfarwyddwr Gwyl y Gelli: "Rydym yn wynebu anhwylderau ac argyfyngau brawychus. Mae angen inni wynebu’r heriau hynny gyda gobaith a dewrder. Mae angen inni glywed y lleisiau doethaf, nid y mwyaf uchel. Ac mae angen yr anrheg y mae nofelwyr a beirdd yn eu rhoi i ni – sef y gallu i ddychmygu'r byd o safbwynt rhywun arall. Mae'n amser i feddwl yn ddifrifol ac i weithio’n ddifrifol, ac felly hefyd, mae'n amser i chwerthin dawnsio a gwledda. Gadewch i ni wneud hynny oll gyda'n gilydd”.

Cliciwch yma i weld rhaglen lawn Gŵyl y Gelli.