Prifysgol Abertawe'n cael ei henwi'n bartner yn Sefydliad Codio newydd y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd bod Prifysgol Abertawe'n bartner yn Sefydliad Codio newydd gwerth £40 miliwn y DU sydd â'r nod o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol.

Caiff y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol ei chreu drwy'r Sefydliad Codio newydd, consortiwm o fwy na 60 o brifysgolion, busnesau ac arbenigwyr diwydiannol, a fydd yn derbyn £20 miliwn i fynd i'r afael â diffyg sgiliau digidol yn y DU.

Yn Fforwm Economaidd y Byd 2018 yn Davos, siaradodd y Prif Weinidog, Theresa May, am sut bydd y Sefydliad Codio, sy'n rhan allweddol o ymdrechion y llywodraeth i wella sgiliau digidol drwy'r Strategaeth Ddiwydiannol, yn hyfforddi pobl o bob oed i feithrin y sgiliau mae eu hangen arnynt.

Ymhlith aelodau'r Consortiwm y mae busnesau fel IBM, Cisco, BT a Microsoft, busnesau bach a chanolig, 25 o brifysgolion a chyrff proffesiynol megis Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain a CREST.

Mae'r 25 o brifysgolion sy'n rhan o'r consortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon, yn amrywio o arweinwyr y sectorau busnes a chyfrifiadureg (UCL a Phrifysgol Newcastle) i arbenigwyr mewn celf a dylunio (Prifysgol y Celfyddydau) ac arbenigwyr mewn ehangu cyfranogiad ac estyn allan (Y Brifysgol Agored a Birkbeck, Prifysgol Llundain).

Meddai'r Gweinidog Prifysgolion, Sam Gyimah: "Mae piblinell o sgiliau digidol o safon fyd-eang yn hanfodol i allu'r DU i lunio ein dyfodol. Drwy gydweithio, gall prifysgolion, cyflogwyr ac arweinwyr diwydiant helpu graddedigion i feithrin y sgiliau iawn, mewn meysydd o seiberddiogelwch i ddeallusrwydd artiffisial a dylunio diwydiannol.

Institute of Coding logo

"Bydd y Sefydliad Codio'n chwarae rôl ganolog yn hyn. Bydd gan gyflogwyr fewnbwn pendant i'r cwricwlwm, gan gydweithio â phrifysgolion i ddatblygu sgiliau arbenigol yn y meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Fel rydym wedi'i amlinellu yn y Strategaeth Ddiwydiannol, mae hyn yn rhan o'n huchelgais i groesawu newid technolegol a bydd yn rhoi mantais fwy cystadleuol i ni yn y dyfodol."

Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps a Chyfarwyddwr y Radd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe: "Gyda'i rhaglen Technocamps ar gyfer Cymru gyfan a'i Gradd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg sy'n darparu cyfleoedd DPP hanfodol i weithwyr amser llawn yn y rhanbarth, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl flaenllaw yng Nghymru yn y dasg o fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau cenedlaethol yng ngweithlu'r economi ddigidol. Rydym yn llawn cyffro wrth ystyried y rhagolygon a'r cyfleoedd newydd a fydd yn deillio o fod yn bartner yn y Sefydliad Codio."

Mae'r Sefydliad Codio'n canolbwyntio ar bum thema graidd:

  • Dysgwyr prifysgol (dan arweiniad y Brifysgol Agored) - I wella cyflogadwyedd graddedigion drwy safon newydd i'r diwydiant, sy'n anelu at gymwysterau lefel gradd. Bydd rhaglenni'r Sefydliad Codio'n cynnwys dysgu sy'n datrys problemau busnes go iawn ac yn rhoi pwyslais cyfartal ar ddatblygu sgiliau busnes, technegol a rhyngbersonol.
  • Y gweithlu digidol (dan arweiniad Prifysgol Aston) - I ddatblygu hyfforddiant sgiliau arbenigol mewn meysydd o bwys strategol.
  • Digideiddio'r proffesiynau (dan arweiniad Prifysgol Coventry) - I weddnewid proffesiynau sy'n mynd drwy drawsnewidiad digidol (e.e. helpu dysgwyr i ailhyfforddi drwy raglenni hyfforddiant digidol newydd a ddarperir ar-lein ac wyneb yn wyneb)
  • Ehangu cyfranogiad (dan arweiniad Prifysgol Queen Mary Llundain) - I hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg a gyrfaoedd sy'n ymwneud â thechnoleg (e.e. gweithdai pwrpasol, cyrsiau dwys, cyfleusterau dysgu arloesol a gweithgareddau estyn allan eraill). Yn 2017, roedd rhaglenwyr a datblygwyr meddalwedd benywaidd yn cyfrif am 3.9% yn unig  o weithwyr proffesiynol ym meysydd technoleg a thelegyfathrebu yn y DU.
  • Rhannu gwybodaeth a chynaladwyedd (dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon) - I rannu canlyniadau ac arfer da, gan sicrhau cynaladwyedd hirdymor y Sefydliad Codio. Bydd hyn yn cynnwys creu sylfaen dystiolaeth o ymchwil, dadansoddi a deallusrwydd er mwyn rhagweld diffygion sgiliau yn y dyfodol.

Mae gwella sgiliau digidol yn elfen ganolog o Strategaeth Ddiwydiannol newydd y llywodraeth sy'n amlinellu gweledigaeth hirdymor i alluogi Prydain i adeiladu ar ei chryfderau economaidd, gwella ei pherfformiad o ran cynhyrchiant, croesawu newid technolegol a hybu enillion pobl ledled y DU.