Symposiwm Academi Morgan - Osgoi Argyfwng: sut gallwn fuddsoddi'n well yn iechyd a lles Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heriau ariannol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru fydd prif thema symposiwm un diwrnod am ddim ym mis Chwefror, a drefnwyd gan felin drafod seiliedig ar ymchwil Prifysgol Abertawe, Academi Morgan, mewn cydweithrediad รข'r Sefydliad Iechyd.

Cynhelir y digwyddiad: 'Osgoi Argyfwng: sut gallwn fuddsoddi'n well yn iechyd a lles Cymru’ yn Adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Llun 26 Chwefror, a chaiff ei gadeirio gan newyddiadurwr a darlledwr y BBC, Bethan Rhys-Roberts.

Bydd y symposiwm yn dod ag arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd a byddant yn holi sut y dylid ariannu anghenion cynyddol iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol ac a yw'r gyllideb bresennol yn cael ei buddsoddi yn y ffordd gywir.  

Bydd y symposiwm yn cynnwys cyfraniadau gan uwch-gynrychiolwyr ac arweinwyr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Bydd Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Comisiwn Bevan, yn agor y ddadl gyda'i farn ar egwyddorion sylfaenol y GIG a sut y dylid ariannu gofal iechyd, a bydd Ysgrifennydd Cyllid Cabinet Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC, yn rhoi araith gyweirnod y symposiwm.

Meddai Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan, a enwyd ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru a Changhellor Prifysgol Abertawe: "Cafodd Academi Morgan ei chreu i fynd i'r afael â'r problemau mawr enbyd sy'n gysylltiedig â pholisi cyhoeddus yng Nghymru a'r byd ehangach. Mae pwysau dwys ar iechyd a gofal cymdeithasol heddiw, a rhoddir pwysau anhygoel ar staff i gynnal diogelwch eu cleifion yn benodol. Fodd bynnag, nid yw adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru'n mynd i'r afael â'r baich ariannol sylweddol a roddir ar y GIG yng Nghymru.   Nod y symposiwm fydd dod o hyd i ddatrysiadau go iawn i'r broblem sylweddol hon".

"Mae'n bleser gennym gael cwmni arbenigwyr allweddol, a fydd yn dod ag ystod eang a heriol o safbwyntiau i'r ddadl amserol hon sydd o bwys mawr. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn sbarduno pobl i feddwl yn feirniadol ac yn creu polisi arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth".

Manylion y digwyddiad:

Dyddiad: Dydd Llun, Chwefror 26, 2018

Amser: 9.30am - 4.45pm

Lleoliad: Adeilad Pierhead (Prif Neuadd), Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA

Mynediad am ddim.

Cofrestrwch yma