Uwch Ddirprwy Is-ganghellor yn helpu i hybu Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau mewn pynciau STEMM

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Iau 8 Chwefror, bu'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel, "Arweinwyr Benywaidd yn Canada House", yr ail mewn cyfres o drafodaethau panel.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Uchel Gomisiwn Canada, a daeth ag arweinwyr ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), o Ganada a'r DU, ynghyd, er mwyn trafod diffyg cynrychiolaeth fenywaidd yn y gymuned wyddonol.

Woman Leaders at Canada House

Dr Imogen Coe, Ei Harucheledd Mrs. Janice Charette, yr Athro Lappin-Scott.

Dan gadeiryddiaeth Ei Harucheledd Mrs Janice Charette, Uchel Gomisiynydd Canada i'r Deyrnas Unedig, roedd y panel yn cynnwys yr Athro Lappin-Scott a Dr Imogen Coe, Deon y Gyfadran Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Ryerson. O flaen cynulleidfa o fyfyrwyr (a'u rhieni) ac athrawon ysgolion uwchradd yn y DU, trafododd y panel gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM, gan ofyn pam nad yw merched a menywod yn dewis llwybr gyrfa mewn meysydd STEM a beth gellir ei wneud i'w hannog.

Meddai'r Athro Lappin-Scott: "Mae'n hollbwysig sylweddoli bod merched a menywod yn dewis pynciau a gyrfaoedd STEM ond ein bod yn colli gormod ohonyn nhw ar hyd y ffordd am wahanol resymau, felly maen nhw'n methu cyrraedd y lefelau uwch. Mae'n bwysig cynyddu amlygrwydd menywod, dathlu eu cyfraniadau a pheidio â gweld menywod fel y 'ffigurau cudd' sy'n ysgogi llawer o'r gwaith ond nad ydynt yn cael y gydnabyddiaeth na'r gwobrau.

Mae'r Athro Lappin-Scott yn aelod o Fwrdd Rhyngwladol Cymdeithas Ficrobioleg America ac yn un o Sylfaenwyr Academi Ficrobioleg Ewrop. Yn ystod ei gyrfa nodedig, mae'r Athro Lappin-Scott wedi gweld â'i llygaid ei hun pa mor brin yw menywod proffesiynol ym meysydd STEM. Hyd yn oed fel plentyn, roedd hi'n ymwybodol ei bod yn beth anghyffredin i fenywod ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth

Meddai'r Athro Lappin-Scott: "Erbyn i mi gyrraedd 14 oed, roeddwn i'n gwybod fy mod i am astudio gwyddoniaeth - ond gwnaeth yr athrawon yn fy ysgol i ferched eu gorau glas i'm perswadio yn erbyn hynny, ac roedden nhw'n methu'n llwyr â deall fy niddordebau gwyddonol! Mewn gwirionedd, gadawais i'r ysgol ag ychydig iawn o gymwysterau ffurfiol, ond es i ymlaen i ddosbarthiadau nos ar ôl y gwaith gan astudio'r gwyddorau fel y gallwn gael fy nerbyn i'r Brifysgol.  Yn y brifysgol, fe wnes i ddarganfod byd rhyfeddol micro-organebau a sylweddolais pryd hynny mai dyna beth roeddwn i am ei wneud!"

Yn ystod y drafodaeth banel, pwysleisiodd yr Athro Lappin-Scott hefyd fod llawer iawn i'w wneud o hyd i ymchwilio i'r rhesymau pam mae menywod â graddau STEM yn llawer llai tebygol na'u cyd-raddedigion gwrywaidd o barhau mewn gyrfa STEM. "Mae angen i ni wrando ar eu rhesymau dros adael, am y diwylliant a'r amgylchedd a'r sefydliadau, a gweithredu ar sail hyn er eu lles personol nhw ac er lles eu busnesau. Pan fydd busnesau'n gwrando ac yn darparu gwell absenoldeb rhieni, amodau gweithio hyblyg, ac yn dangos i fenywod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, maen nhw'n llawer mwy tebygol o gadw eu staff dawnus."

Mae partneriaeth strategol rhwng Canada a'r DU i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn ogystal ag ymrwymiad i arloesi gwyddonol ac i gynnal digwyddiadau fel hyn er mwyn darparu cyfleoedd i ymgysylltu, ysbrydoli ac annog trafodaethau pwysig.