Mae Christine yn uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, lle y mae’n dysgu ar amrywiaeth eang o fodiwlau ar y cwrs gradd yn y Gymraeg ac yn gyfarwyddwr astudiaethau israddedig sydd yn cynnwys y Gymraeg.
Gwaith ymchwil Christine (fideo)
Graddiodd Dr Lake yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi bod ar staff yr adran er 1996. Mae bellach yn Uwchddarlithydd ac yn cynnig modiwlau ar lên yr Oesoedd Canol, y ddeunawfed ganrif, cyfieithu ac ar loywi iaith.
Ymunodd Tudur ag Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe ym 1999. Fe’i benodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Mae ei feysydd arbenigol yn cynnwys llenyddiaeth ddiweddar, llenyddiaeth y canon, beirniadaeth lenyddol a drama.
Ar ôl ennill ei radd yn y Gymraeg, gweithiodd ym maes Cymraeg i Oedolion am dros ddeng mlynedd ar hugain gan ymuno â’r Adran Addysg Barhaus yn 1991 fel darlithydd a throsglwyddo i Academi Hywel Teifi yn 2010.
Mae Linda yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac yn cyfrannu at nifer o fodiwlau gloywi iaith a sgiliau llafar, yn cydlynu’r cwrs dwys ar gyfer myfyrwyr ail iaith Lefel 1 ac yn trefnu lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr modiwl Cymraeg a Gyrfa.
Mae Robert Rhys yn Ddarllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr Canolfan Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Llenyddiaeth o 1800 hyd at y presennol yw ei faes arbenigol, a chyhoeddodd gyfrolau ar Waldo Williams, Daniel Owen a James Hughes.
Ymunodd Elain â Academi Hywel Teifi yn 2011 fel darlithydd cyfryngau. Ei phrif feysydd ymchwil yw darlledu yng Nghymru – yn benodol hynt a hanes S4C a’r sector deledu annibynnol, datblygiad rhaglenni teledu i blant yn y Gymraeg ac animeiddio yng Nghymru.
Penodwyd Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi yn ddiweddar. Mae’r ysgolhaig yn adnabyddus yn sgil ei waith cyhoeddi ym maes barddoniaeth a beirniadaeth heb anghofio’i ddoniau sgriptio a golygu.