Mae Eleanor Roberts, nyrs staff o Abertawe, yn astudio BSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol - Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol ar hyn o bryd. Meddai,
"Dewisais astudio ym Mhrifysgol Abertawe am fy mod wedi astudio yma o'r blaen, gan gwblhau fy ngradd israddedig mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn 2010. Mae'n agos at adref ac rwy'n gallu astudio ar sail ran-amser ochr yn ochr â'm cyflogaeth amser llawn. Roedd hefyd ariannu ar gael ar gyfer mwyafrif y ffioedd dysgu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
"Am fy mod yn gweithio ym maes iechyd meddwl, rwy'n dilyn modiwlau sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl. Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer nyrsys sy'n gweithio mewn lleoliad cymunedol, drwy astudio ar sail ran-amser. Mae’n cynnwys modiwlau traddodiadol ochr yn ochr ag elfen dysgu yn y gweithle.
"Rwy'n mwynhau'r cyfleoedd i gwrdd â phobl sy'n gweithio mewn meysydd nyrsio gwahanol a rhannu profiadau clinigol, ac mae hyn yn cyfrannu at fod yn fwy hyderus yn fy ymarfer nyrsio.
"Gobeithiaf allu defnyddio'r wybodaeth a ddysgaf drwy astudio'r cwrs yn y gweithle, a gobeithiaf y bydd cwblhau'r cwrs yn sicrhau manteision hirdymor yn fy ngyrfa. Mewn gwirionedd, mae astudio MSc Practis Gofal Iechyd Sylfaenol a Chymunedol eisoes wedi bod yn gymorth yn fy ngyrfa, am i mi gael swydd fel Nyrs Seiciatrig Cymunedol.
Mae'r gefnogaeth y cafodd Eleanor gan y Coleg hefyd wedi creu argraff arni, ond mae'n rhybuddio myfyrwyr i fod yn barod am waith caled. Meddai, "Mae lefel dda o gefnogaeth academaidd a llawer i'w wneud i fyfyrwyr sy'n symud i'r maes. Mae'n sicr werth ei wneud os oes gennych ddiddordeb yn y maes pwnc, ond byddwch yn barod am y llwyth gwaith, mae'n llawer mwy nag ydyw ar lefel israddedig!"