Ein Gweledigaeth Strategol a'n Pwrpas

Rydym yn falch o gyflwyno ein Gweledigaeth Strategol a'n Pwrpas, sy'n amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer ein Prifysgol a'n gwerthoedd.

Yn ein hanfod, rydym yn sefydliad egwyddorol, pwrpasol a gwydn sy'n nodweddiadol am werthoedd, diwylliant ac ymddygiadau arbennig sydd wrth wraidd ac yn tanategu pum piler allweddol ein Prifysgol:

Ein Cenhadaeth Ddinesig: rydym yn falch o berthyn i Ddinas Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe ehangach ac rydym yn dathlu'r dreftadaeth honno. Gyda champysau yn ardaloedd tri awdurdod lleol, rydym yn cydnabod mai prifysgol y rhanbarth yw ein Prifysgol ni.

Profiad ein Myfyrwyr: ein myfyrwyr yw calon ein Prifysgol a gallwn ymfalchïo yn ein henw cryf cyson am ansawdd ein profiad i fyfyrwyr, cryfder ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a'n hymrwymiad i iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

Ein Dysgu ac Addysgu: mae rhannu gwybodaeth er mwyn meithrin sgiliau meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn elfen sylfaenol o'n diben. Mae'n galluogi ein myfyrwyr i fod yn gadarn yn wyneb heriau byd-eang ac i addasu i fyd gwaith newidiol. Rydym yn dathlu ein treftadaeth Gymraeg ac yn falch o fod yn rhan o genedl ddwyieithog.

Ein Hymchwil: mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae'n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'n effeithio ar ein diwylliant a'n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a'n lles, ein heconomi a'n planed.

Ein Mentergarwch: rydym yn brifysgol hynod gydweithredol ac entrepreneuraidd. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac rydym yn parhau'n ffyddlon i uchelgeisiau ein sefydlwyr, drwy weithio gyda phartneriaid diwydiannol, masnachol ac yn y sector cyhoeddus er budd ein rhanbarth a'n cenedl.

Nodir pob un o'r meysydd hyn gan ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, gweithredu â chyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol, ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth a chynnal meddylfryd byd-eang sydd yn ein galluogi i fod yn Brifysgol gymunedol â chyrhaeddiad ac enw rhyngwladol.

Wrth lunio'r ddogfen hon, rydym wedi ymgynghori'n eang â'n cydweithwyr, ein myfyrwyr, ein cyn-fyfyrwyr a'n partneriaid i bennu gweledigaeth ein cymuned ar gyfer ei phrifysgol, ei phwrpas, yr ymrwymiadau byddwn yn eu gwneud a'r blaenoriaethau byddwn yn eu cyflawni.

Caiff y ddogfen hon ei hadolygu bob blwyddyn a'i diweddaru mor aml ag sy'n angenrheidiol; caiff ei hategu gan strategaethau manwl â thargedau a mesurau llwyddiant clir ar gyfer pob un o'n pileri craidd a'n sylfeini galluogi.

Gallwch ddarllen Prifysgol Abertawe: Ein Gweledigaeth Strategol a'n Pwrpas isod.

Graffeg olwyn sy’n dangos gwerthoedd, diwylliant ac ymddygiadau Abertawe.