Cyfarwyddiadau
Cyfarwyddiadau i Bentref Myfyrwyr Hendrefoelan
(Sat Nav: SA2 7PG)
O'r Brifysgol trowch i'r chwith i Heol Mumbles. Cariwch ymlaen heibio i gae rygbi/criced St Helen a throwch i'r chwith mewn i Lôn Gorse (cyn Pafiliwn Patti). Dilynwch furiau'r cae gan droi i'r chwith unwaith yn rhagor ar y gyffordd nesaf (tafarn y Cricketers' ar y dde).
Ar y gylchfan fechan, trowch i'r chwith yn ôl i Heol Mumbles. Trowch i'r dde ar y goleuadau traffig a pharhewch yn y lôn ar y dde. Parhewch heibio i fynedfa campws y brifysgol.
Trowch i'r dde ar y goleuadau traffig cyntaf (y gyffordd gyda Lôn Sgeti). Ewch heibio i Ganolfan Chwaraeon y brifysgol (fydd ar y chwith) ac Ysbyty Singleton (fydd ar y dde) ac ar y gylchfan fechan, ewch i'r dde i heol Sketty Park.
Parhewch i fynd yn syth ymlaen ar y goleuadau traffig (ar ôl pasio ysgol Bishop Gore ar y dde) gan droi i'r chwith ar y gyffordd gyda Heol Gower.
Parhewch i fynd yn syth ymlaen drwy'r goleuadau traffig nesaf ac ewch yn syth ymlaen dros y gylchfan fechan cyntaf gan basio ysgol Olchfa ar y chwith. Trowch i'r dde ar y gylchfan fechan nesaf mewn i Bentref Myfyrwyr Hendrefoelan.
Dilynwch yr heol i Central Square lle dylid cael lle i barcio.
Adeilad Emily Phipps
Dilynwch yr heol o amgylch pentref y myfyrwyr ac fe ddewch chi i adeilad llwyd o'r 1960au a maes parcio. Dyma adeilad Emily Phipps.
Mae prif fynedfa'r adeilad ar gornel yr adeilad ar ben y rhiw.