Academyddion Abertawe'n dod ag arbenigwyr y byd ar yr achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd bacterol at ei gilydd

Please note, this page has been archived and is no longer being updated.

Dr Samuel Sheppard a Dr Guillaume Méric o Uned Microbioleg Feddygol a Chlefydau Heintus Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yw golygyddion llyfr testun gwyddonol newydd a fydd ar gael ym mis Mawrth*, sy'n mynd i'r afael â bioleg yr achos byd-eang pwysicaf o lid y stumog a'r coluddion (gastroenteritis) bacterol, campylobacter.

Mae cyhoeddiad y llyfr, Campylobacter Ecology and Evolution, yn dilyn strategaeth newydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i leihau'r nifer o bobl sy'n dioddef Campylobacter.

Campylobacter yw'r achos mwyaf cyffredin o bell ffordd o wenwyn bwyd bacterol yn y DU. Ystyrir ei fod yn gyfrifol am oddeutu 460,000 o achosion o wenwyn bwyd, 22,000 o ymweliadau â'r ysbyty a 110 o farwolaethau bob blwyddyn, ac mae cyfran uchel o'r achosion oherwydd dofednod. Dangosodd arolwg gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o ieir ar werth yn y DU (2007/08) fod 65% o'r ieir ar werth mewn siopau wedi'u heintio â champylobacter. Lleihau achosion o gampylobacter yw prif flaenoriaeth diogelwch bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ond dengys ei gwaith monitro nad oes unrhyw dystiolaeth o newid yn y gyfran o'r ieir mwyaf heintus er 2008.

Meddai Dr Sheppard, "Ceir aelodau o'r genws campylobacter yn gyffredin yn llwybr traul mamaliaid ac adar, a gall fod yn gydfwytaol neu'n bathogenig ei natur. Er enghraifft, gall campylobacter jejuni fod yn organedd cydfwytaol diniwed mewn dofednod ac adar ac anifeiliaid lletyol eraill, ond mewn bodau dynol, mae'n bethogenig, a dyma'r achos mwyaf cyffredin o lid y stumog a'r coluddion bacterol yn y byd."

"Mewn blynyddoedd diweddar mae cymhwyso dilyniannu DNA a thechnolegau 'omig' i nifer mawr o arunigion wedi caniatáu i ymchwil campylobacter gynyddu'n gyflym, gan ddatgelu ffeithiau newydd hynod ddiddorol am fioleg gellog ac esblygiad y grŵp hynod amrywiol hwn o facteria."

"Yn Campylobacter Ecology and Evolution, mae arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol yn cynnig adolygiadau critigol ac yn cyflwyno syniadau am agweddau pwysig ar gampylobacter, gan gynnwys dulliau esblygiad, addasu i lety, epidemioleg ac ecoleg mewn dofednod."

Mae dau aelod arall o staff Prifysgol Abertawe, Dr Ben Pascoe (Coleg Meddygaeth) a'r Athro Hilary Lappin-Scott (Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe), wedi ysgrifennu pennod ar y cyd yn y llyfr hwn am ffurfiant bioffilm mewn campylobacter.

Meddai'r Athro Tom Humphrey, arbenigwr ar ddiogelwch bwyd a chynhyrchiad dofednod sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, ac a benodwyd fel Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar, "Gobeithio y bydd cyhoeddiad amserol y llyfr testun hwn yn cyfrannu'n fawr at yr ymdrech i fynd i'r afael â'r broblem barhaus a difrifol hon, yn y DU a ledled y byd."

*Mae 'Campylobacter Ecology and Evolution' ar gael i'w lawrlwytho o fis Mawrth 2014, a chaiff ei gyhoeddi fel llyfr clawr caled ym mis Ebrill 2014.