SUT GALLWN WEITHIO GYDA CHI

Ers i ni gael ein sefydlu ym 1920, mae ein gwerthoedd wedi bod yn seiliedig ar ein cyfrifoldeb dinesig. Mae cyfoethogi bywydau ac arferion ein cymuned amrywiol wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Drwy ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol, a'n gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth, rydym yn helpu i wella a llywio sefydliadau, unigolion a grwpiau o bob math, gan gynnwys: elusennau, busnesau a llywodraethau, gan ddathlu ein cymuned a'n diwylliant Cymreig, sy'n destun balchder i ni.

O brosiectau tymor byr i gydweithrediadau ymchwil tymor hwy, gall gweithio gydag ymchwilwyr o'r radd flaenaf mewn amrywiaeth o sectorau arbenigol eich helpu i ddatblygu atebion creadigol i heriau sefydliadol.

Wrth wraidd ein cryfder ymchwil y mae rhwydwaith o fentrau rhyngddisgyblaethol, a chanolfannau rhagoriaeth, a sefydlwyd i alluogi staff sy'n arbenigo mewn meysydd gwahanol i archwilio cysyniadau newydd radical, gan ganolbwyntio ar anghenion arloesi sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol.

DOD O HYD I'R ARBENIGWR IAWN

YMCHWIL AC ARBENIGEDD

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithredwyr ledled y byd. Mae ein hymchwil yn cyflawni effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. 

Gweler mwy am ein hymchwil a'n effaith bresennol, a dewch o hyd i amrywiaeth o arbenigedd drwy ein hacademyddion a'n hymchwilwyr yma yn Abertawe.

Effaith ein hymchwil

HOFFECH CHI SIARAD AG ARBENIGWR AM GYDWEITHREDU?

Mae aelodau ein Tîm Effaith ac Ymgysylltu ar gael i'ch helpu ar unrhyw gam o'ch taith gydweithredol a gallant eich cynorthwyo gyda'ch ymholiadau a helpu i'ch cysylltu â'r academydd neu'r ymchwilydd iawn, gan ddibynnu ar eich prosiect. Dewch o hyd i Swyddogion Effaith ac Ymgysylltu pob un o'n cyfadrannau isod, neu os nad ydych yn siŵr at bwy dylech gyfeirio eich ymholiad, mae croeso i chi e-bostio collaborations@abertawe.ac.uk.

Cysylltwch â Swyddogion Effaith ac Ymgysylltu pob un o'n cyfadrannau:

  • Tomos Watson, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu ar ran Gwyddoniaeth (y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg)
  • Kate Spiller, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol)
  • Raha Rahbari, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu (y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd)
cydweithwyr yn siarad