Aduniadau Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe

40 mlynedd o berthnasoedd cryf ac atgofion bythgofiadwy

Yn ddiweddar, dathlodd Clwb Pêl-droed y Brifysgol garreg filltir nodedig wrth iddo gynnal ei 40fed aduniad gyda chyn-chwaraewyr yn bennaf o'r 1970au hwyr a'r 1980au cynnar a chanol.

Mae'n bwysig nodi nad digwyddiad untro ar gyfer y 40fed flwyddyn oedd hwn.Yn hytrach, roedd yn nodi'r deugeinfed aduniad sydd wedi dod â chyfranogwyr ynghyd o wledydd mor bell ag Awstralia, yr Iseldiroedd, Canada a hyd yn oed Castell-nedd. Ond sut dechreuodd popeth?

Mae Denis Byrne, un o aelodau ymroddedig y digwyddiad, yn taflu goleuni ar ei wreiddiau: "Ym 1981, ar ôl gêm olaf y tymor, penderfynon ni greu Leavers XI. Wrth i ni gwrdd yn y Rhydds ar ôl y gêm ar ddiwrnod Gêm Derfynol Cwpan yr FA, cytunon ni ddod yn ôl y flwyddyn nesaf ac ail-chwarae'r gêm yn erbyn tîm presennol y brifysgol. O hynny, daeth yn draddodiad blynyddol. Bob blwyddyn ers hynny, rydym ni'n cwrdd yn Abertawe yn ystod penwythnos cyntaf mis Mawrth. Fel arfer, mae tua 25-30 yn dod, sy'n dipyn o gamp ynddo ei hun. Fodd bynnag, roedd nifer y cefnogwyr eleni'n gryf iawn oherwydd y pen-blwydd yn 40 oed."

Swansea University FC Reunion

Yn y gorffennol, uchafbwynt y penwythnos oedd gêm bore dydd Sul yn erbyn tîm y brifysgol, ac yn fwy diweddar, timoedd o gyn-chwaraewyr lleol. Yn ei ffurf fwy diweddar, un o uchafbwyntiau'r penwythnos yw cystadleuaeth golff ffyrnig a gynhelir er cof y diweddar Steve Bird. "Roedd Birders yn arwr Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe. Ei gofio fel hyn yw'r peth lleiaf gallwn ni ei wneud. Daeth llawer o'r 'Hen Fois' i’w angladd, a doedd hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad. Mae'n ffordd arall o ddathlu'r amser anhygoel a gawsom yn Abertawe yn ystod y cyfnod hwnnw. A bod yn onest, dw i ddim yn meddwl y gall un ohonom gofio'r un ddarlith, ond gallwn ni gofio'r gemau chwaraeon ni yn erbyn prifysgolion eraill ac yn y gynghrair leol ar ddydd Sadwrn fel ddoe ," meddai Kev Jones. Yn drist, mae rhai o'r cyn-chwaraewyr eraill, gan gynnwys Alan Davies a Martin Webster, wedi marw ers hynny. Fodd bynnag, mae Mike Ede yn nodi: "Dyw hwn ddim yn achlysur trist o bell ffordd; mewn gwirionedd, y gwrthwyneb yw e."

Swansea University FC Reunion match at Sketty Lane

"Ar gyfer y rhan fwyaf ohonom, mae'r digwyddiad yn uchafbwynt yn y flwyddyn, a byddwn yn parhau ag ef cyhyd ag y gallwn. Efallai nad oes gan y penwythnosau'r un bwrlwm ag yn y 1980au canol i hwyr, ond rydym ni'n dal i lwyddo i greu argraff. Er ein bod ni'n cofio gwendidau cymeriad cyfarwydd, yr atgof sy'n parhau yw un o grŵp o ffrindiau a chwaraeodd gyda'i gilydd flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi cadw mewn cysylltiad yn gyson dros gyfnod hir o amser. Cawsom ni amser anhygoel yn Abertawe, ac rydym ni wir wedi aros yn ffrindiau mawr, nid atgofion pell sy'n pylu," meddai Andy McRae.

Swansea University FC Reunion golf tournament

Pan fu farw Steve Bird, ysgrifennwyd cerdd er cof amdano gan un o'n criw sy'n fwy llenyddol ei natur, Denis Byrne, fel a ganlyn:

EULOGY TO A FOOTBALL CLUB OLD BOY

The line is crossed, the team talk given,
Another team mate
Weaves his way to heaven.

On college steps our bond was met,
And through our lives
Of toil and family and play
We held our thread to Swansea Bay.

But now our friend sends one last pass,
And the shape of our better selves
Bends towards us,
Sprinkling banter, laughter and song
Across the grass.

Our season is not yet done,
So pin the team sheet for all to see,
Oh what a team this will be ...
Martin Webster
Steve Bird
Alan Davies
Is my name next skipper?

So, take the nets down slowly,
Gather the corner flags,
Put your socks in pairs
And sooth your bruises lads.

Our love for each is never far,
We'll see you in the college bar.
We'll see you in the college bar.

Yn naturiol, dros y 40 mlynedd, rydym ni wedi colli cysylltiad yn anochel â rhai o'r tîm. E-bostiwch Andy os hoffech chi gymryd rhan yn andy@the-mcraes.com