Croeso cynnes i SAIL, ein cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr

Mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad hir o gyflawniad a rhagoriaeth chwaraeon

P'un a ddaethoch chi i Abertawe fel athletwr elît, roeddech chi'n aelod o un o'n cymdeithasau neu glybiau chwaraeon niferus, buoch chi’n cymryd rhan yn Varsity neu’n gwylio yn y dorf, neu'n syml iawn, roeddech chi wrth eich bodd yn rhedeg ar hyd promenâd y Mwmbwls, mae'n debyg iawn y bydd chwaraeon wedi bod yn rhan o'ch amser yma gyda ni.

Rydym ni'n cydnabod mai ein prifysgol ni yw prifysgol y rhanbarth, ac felly mae ein gweledigaeth yn cynnwys nid yn unig ein myfyrwyr a'n staff, ond hefyd iechyd a lles ein cymuned ehangach. Ein nod ni yw trawsnewid bywydau a'r dyfodol drwy hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau corfforol a darparu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, megis y rhai hynny ym Marc Chwaraeon Bae Abertawe, er budd ein cymuned leol.

Rydym ni'n hyrwyddo chwaraeon i bawb ac yn hyrwyddo buddion gweithgareddau corfforol i les cyffredinol. Gan adeiladu ar lwyddiant y Sefydliad Gwyddor Bywyd, bydd ein prosiect Campysau newydd ar Lôn Sgeti, a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o arloesi ym maes meddygaeth a thechnoleg chwaraeon ac yn datblygu rhagoriaeth ymchwil ein prifysgol ym meysydd chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Campysau, cliciwch yma. 

Mae'r cylchgrawn hwn yn cynnwys cyfweliadau â chyn-fyfyrwyr sydd bellach yn gweithio ym maes chwaraeon. O Formula 1 i Sky Sports ac o'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i fyd deddfwriaeth chwaraeon, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cael eich ysbrydoli gan ein straeon ac y byddant yn hel atgofion melys am eich amser chi yn Abertawe.

Rydym ni'n hynod falch o gyflawniadau cynifer o'n cyn-fyfyrwyr, ac yn cydnabod eu bod yn cyfrannu at ddyfodol mwy disglair, beth bynnag fo’u maes. Er nad oes modd amlygu'r holl waith gwych gan ein cyn-fyfyrwyr, rydym ni'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n mwynhau'r ciplun hwn.

Dymuniadau gorau,

Yr Athro Paul Boyle
Is-ganghellor