Ydych chi am gefnogi ffermwyr lleol a bioamrywiaeth a bwyta'n dymhorol? Does dim angen chwilio ymhellach, rydych chi wedi cyrraedd y lle iawn!

Rydyn ni mor gyffrous i gyhoeddi ein bod ni wedi ymuno â grŵp Tir Awel a sefydliad Canolfan yr Amgylchedd i lansio Hyb Llysiau’r Brifysgol. Gallwch nawr gasglu blychau llysiau ffres a lleol ar Gampws Singleton bob dydd Gwener yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin. Mae pedwar blwch llysiau ar gael sy’n amrywio o flwch bach (6 llysieuyn) i flwch teulu (10 llysieuyn) a dau flwch ffrwythau. Mae prisiau’n amrywio yn unol â threfniadau prynu, naill ai ar sail untro neu drwy danysgrifiad.

Nid yw Tir Awel yn defnyddio plaladdwyr ac mae’r cwmni’n gadael i’r cynnyrch dyfu’n naturiol. Yn ogystal â lleihau eich ôl troed carbon o ran milltiroedd bwyd, rydych chi hefyd yn bwyta’n dymhorol, sy’n llawer gwell i’r amgylchedd. Mae’r cynllun hwn yn hynod fuddiol i’r amgylchedd a’ch iechyd a’r economi leol. Gadewch i ni ailystyried y ffordd rydyn ni’n tyfu bwyd fel y gall natur a phobl elwa ohono. Peidiwch ag oedi, prynwch eich blwch heddiw!

Byddwch yn ymwybodol mai’r diwrnod olaf i brynu blwch yw’r dydd Mawrth cyn y dydd Gwener pan gaiff y blychau eu dosbarthu.

Oes gennych chi ragor o gwestiynau? Dim problem - gweler y Cwestiynau Cyffredin isod:

Sut mae casglu blychau?

Mae Lauren, sef rheolwr fferm Tir Awel yn dosbarthu’r blychau i Gampws Singleton ar brynhawn dydd Gwener. Gallwch chi gasglu eich blwch rhwng 2pm a 4.30pm ar brynhawn dydd Gwener wrth brif fynedfa Taliesin. Bydd Tir Awel yn anfon e-bost atoch chi i roi wybod i chi fod eich blwch yn barod i’w gasglu. Gwnewch yn siŵr y byddwch chi’n bendant yn gallu casglu eich blwch erbyn 4.30pm. Bydd gwirfoddolwr wrth y stondin i gwrdd â chi a gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn y blwch cywir. Er mwyn i ni hybu cynaliadwyedd, gofynnwn i chi ddod â’ch bag eich hun i gludo cynnwys eich blwch. Rydyn ni’n ailddefnyddio’r holl becynnau y gallwn ni, felly pan fyddwch chi’n dychwelyd i gasglu blwch eto, dewch â’r holl becynnau sydd mewn cyflwr da yn ôl atom (papur/bagiau plastig, basgedi etc).

Fydd 100% o gynnwys y blychau’n gynnyrch Tir Awel?

Nod Tir Awel yw tyfu cymaint â phosib o’r cynnyrch a roddir yn y blychau. Rhan o genhadaeth y grŵp, fodd bynnag, yw cysylltu â thyfwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol eraill i ddatblygu system fwyd hyblyg a gwydn yn ein hardal sy’n cefnogi pob parti. I’r grŵp, dyw hyn ddim yn golygu cyflawni’r cynllun blychau llysiau gorau gan ddenu nifer mwyaf y cwsmeriaid a gwneud yr elw mwyaf. Bydd Tir Awel yn aml yn gweithio gyda thyfwyr eraill yn yr ardal i gyfnewid cynnyrch ar gyfer blychau ei gilydd a byddant yn helpu ei gilydd os bydd un ohonynt wedi profi cynhaeaf gwael ac yn rhannu bwyd dros ben pan fydd gormod wedi tyfu os nad yw’r cynnyrch hwnnw gan un yn y grŵp. Byddant hefyd yn prynu pethau fel madarch cnau castan y mae angen amodau hynod arbenigol iddynt dyfu. Mae’n nhw’n prynu eu holl ffrwythau ac mae llawer ohonynt yn dod o Ewrop (byddai’n eithaf anodd cynnal blwch ffrwythau lleol drwy gydol y flwyddyn!), ond, wrth gwrs, maent yn blaenoriaethu tyfwyr lleol pan fydd y tymor yn caniatáu.

Alla i ohirio neu ganslo fy nhanysgrifiad?

Gallwch, mae’n hawdd iawn gohirio’ch tanysgrifiad os ydych chi’n symud i ffwrdd neu os ydych chi wedi cronni syrffed o lysiau i’w bwyta. Yn yr un modd, os oes angen i chi ganslo am sbel, mae Tir Awel yn cynnal cynllun heb gontract, felly gallwch chi ganslo heb rwymedigaeth. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw rhoi gwybod iddynt cyn 8pm ar y dydd Mawrth cyn dosbarthu’r llysiau. Golyga hyn na fyddant yn cynaeafu cynnyrch sy’n mynd i gael ei wastraffu.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i archebu ar Tir Awel.

Hyb llysiau Canolfan yr Amgylchedd.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.

Rhannu'r stori