Collage o ffotograffau a dynnwyd yn ystod y gweithgaredd gwasgu afalau

Sesiwn Croeso i Gynaliadwyedd

Wrth i'r tymor newydd ddechrau, roeddem am wneud rhywbeth arbennig i groesawu ein myfyrwyr newydd a'r rhai hynny sy'n dychwelyd, staff a'r gymuned i'r campws.

Mae gan SoDdGA Twyni Crymlyn, drws nesaf i Gampws y Bae, lu o goed afalau hyfryd ac rydym wedi penderfynu pigo rhai (gan adael digon ar gyfer yr amgylchedd naturiol) a'u gwasgu i wneud sudd! Aeth Ben ein Swyddog Bioamrywiaeth, gyda'i fyfyrwyr 'Blwyddyn mewn Diwydiant' allan a phigo amrywiaethau hyfryd gan gynnwys "Crymlyn Red" sef amrywiaeth mawr a hynod felys.

Y diwrnod nesaf, gosodwyd gwasgfa afalau â llaw ar Gampws Parc Singleton gan groesawu myfyrwyr, staff a'r gymuned i dorri, malu a gwasgu'r afalau i gael sudd ffres i bawb ei fwynhau. 

Gwnaethom hefyd roi planhigion mefus i bawb o'n gwelyau sesiynau garddio a oedd yn llwyddiant enfawr. Rhoddwyd o leiaf 40 o blanhigion mefus i bobl a 40 o gynwysyddion cynaliadwy o sudd afal ffres!

Cyfle gwych i ni roi gwybod i bawb am y camau gweithredu cynaliadwy y gallant gymryd rhan ynddynt ar y campws a'r tu hwnt iddo gan SWell, glanhau traethau, SOS, Gwobr Dinasyddiaeth Fyd-eang a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Darllenwch fwy ar ein tudalen we Cymerwch ran.

Diolch yn fawr i Fywyd Campws am gefnogi'r diwrnod.

Rhannu'r stori