Mae'r gwaith wedi dechrau i ddisodli cynhyrchion glanhau cemegol y Brifysgol gyda BioHygiene, cynhyrchion glanhau biodechnoleg blaenllaw'r DU.

Mae'r Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu, Fiona Wheatley, a'r cwmni rheoli cyfleusterau, Mitie, yn gweithio gyda BioHygiene i newid yr holl gynhyrchion glanhau cemegol a ddefnyddir yn y mannau addysgu academaidd, mannau cyhoeddus a thoiledau i gynhyrchion BioHygiene.

Mae cynhyrchion BioHygiene, a wnaed gyda chynhwysion naturiol, cynaliadwy ac adnewyddadwy, yn gweithio ar sail system dosau. Mae hyn yn golygu bod cynhyrchion glanhau BioHygiene yn cael eu defnyddio mewn crynodiadau uchel, sy'n golygu bod angen llai o hylif a phlastigion untro i gyflenwi cynhyrchion.

Mae symiau bach o'r hylif crynodiad uchel yn cael eu gwanhau â dŵr a'u harllwys i boteli y gellir eu hailddefnyddio sy'n golygu bod llai o blastig gwastraff yn cael ei gynhyrchu'n gyffredinol. Mae'r poteli PCR y mae'r hylif crynodiad uchel yn cyrraedd ynddo hefyd yn gallu cael eu dychwelyd i ganolfan weithgynhyrchu BioHygiene i'w hail-lenwi, sy'n helpu'r economi gylchol.

Oherwydd y pecynnu y gellir ei ailgylchu a'i gompostio (PCR), bydd hyn yn golygu bod Mitie a'r Brifysgol yn gallu lleihau llygredd plastig yn sylweddol a'u defnydd o blastigion untro, gan arwain at ostyngiad o 37% dros flwyddyn.

BioHygiene savings and reductions totals

Gan ei fod yn weithgynhyrchwr yn y DU, bydd cyflwyno BioHygiene i'r amserlen lanhau hefyd yn lleihau costau cludiant cyffredinol y Brifysgol a hefyd bydd newid i BioHygiene, a oedd yn brosiect ar y cyd rhwng Fiona a Mitie, yn lleihau effaith Prifysgol Abertawe ar yr amgylchedd ac o ganlyniad yn lleihau carbon yn gyffredinol, gan helpu'r brifysgol i symud yn agosach at gyflawni ei nod o gyrraedd sero net allyriadau carbon erbyn 2035.

Bydd lleihau ein defnydd o blastig untro ynghyd â defnyddio technolegau cynaliadwy BioHygiene yn helpu i gyflawni 86% o ostyngiad mewn CO2e.

Rhannu'r stori