Yn y llun gyda'r wobr (o'r chwith): Rheolwr Cyffredinol Mitie, Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol, Isobel McGlashon; Pennaeth Gweithrediadau Campws, Michelle Dene; myfyriwr cynaliadwyedd Mitie, Devyn Simeoni; Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu, Fiona Wheatley; Rheolwr Cynaliadwyedd, Teifion Maddocks

Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a lleihau gwastraff wedi cael ei gydnabod gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Ym mis Mawrth eleni, Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni ardystiad o fri, Dim Gwastraff i Safleoedd Tirlenwi. Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn ymgynghori'n fyd-eang, wedi'i hysgogi gan y genhadaeth i symud yn gyflymach tuag at ddyfodol di-garbon. Mae ei hardystiad Dim Gwastraff i Safleoedd Tirlenwi yn cydnabod sefydliadau sy'n dangos arweinyddiaeth wrth reoli gwastraff.

Roedd y Brifysgol wedi cyflawni safon yr Ymddiriedolaeth Garbon o'r blaen am leihau cyfanswm ei gwastraff o flwyddyn i flwyddyn a daw'r llwyddiant newydd hwn ar ôl proses archwilio drylwyr dros chwe mis a dilysu annibynnol.

Mae gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon a Mitie, ein cyflenwr gwasanaethau rheoli gwastraff, i sicrhau'r ardystiad hwn wedi bod yn ymarfer ardderchog wrth werthuso llwybr ein holl ffrydiau gwastraff. Gallwn ni bellach ddatgan yn hyderus ein bod ni'n brifysgol nad yw'n anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi. Gan fod gennym fwy na 40 o ffrydiau gwastraff oherwydd ehangder ein hymchwil, mae'r achrediad hwn wedi bod yn fenter sylweddol, ac rydyn ni wrth ein boddau â’r canlyniad.

Mae'r Brifysgol yn sefydliad sy'n rhoi pwyslais mawr ar ymchwil, a chan fod ein ffrydiau gwastraff yn cynnwys deunydd peryglus, dyma gamp sylweddol. Mae'r ardystiad yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i wella arferion rheoli gwastraff a nodi ffyrdd newydd o ailgylchu gwastraff a pheidio ag anfon eitemau i safleoedd tirlenwi.

Er mwyn cyflawni'r achrediad, rydym wedi gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau nad yw unrhyw wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi, ynghyd â cheisio lleihau nifer yr eitemau untro drwy gaffael cynaliadwy, a chyflawni’r nodau yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ar gyfer 2021-25.

Yn ôl y ffigurau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22, nid aeth unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi a dargyfeiriodd y Brifysgol fwy na 63 y cant o'r holl wastraff i adfer ynni drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio ac ailgylchu, compostio ac anfon gwastraff bwyd i gael ei dreulio'n anaerobig, sy'n cynhyrchu bio-nwy a bio-wrteithiau.

Dyma nodau nesaf ein tîm Cynaliadwyedd:

  • Parhau i weithio i gael gwared ar bob eitem untro o fannau bwyd a diod;
  • Canolbwyntio ar leihau plastigion untro mewn labordai, a chael gwared ar y rhain;
  • Gosod mwy na 131 o fannau ail-lenwi dŵr ar y ddau gampws er mwyn lleihau gwastraff plastig;
  • Cyflwyno gostyngiad gwerth 25c i unrhyw un sy'n defnyddio cwpan coffi amldro. 
  • Cyflwyno dewisiadau pren amgen y gellir eu compostio yn lle cytleri plastig untro; a
  • Chyflwyno gwellt yfed compostadwy yn lle rhai plastig yn holl fannau arlwyo ein campysau ac Undeb y Myfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth am ein hymdrechion gwastraff ac ailgylchu.

Rhannu'r stori