Yn y Coleg Peirianneg a'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, mae gwaith ymchwil o'r radd flaenaf yn cael ei wneud mewn nifer o feysydd, gan gynnwys synwyryddion diagnostig, modelu systemau ffisiolegol gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol, ffisioleg ymarfer corff, gweithgarwch corfforol plant, a moeseg chwaraeon ac atal camddefnyddio cyffuriau.
Mae ein gwaith yn ymwneud ag amrywiaeth eang o gyd-destunau, o chwaraeon elitaidd a phroffesiynol i amgylcheddau clinigol ac addysgol ac amgylchedd y cartref.