Trosolwg o'r Cwrs
**Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS? Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol**
Gallwch feithrin y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa werthfawr sy'n llawn boddhad fel bydwraig gyda'n cwrs gradd uchel ei barch a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Bydwreigiaeth.
Byddwch yn datblygu'r arbenigedd clinigol a rhyngbersonol i sicrhau llesiant corfforol ac emosiynol menyw yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a'r cyfnod ar ôl geni. Bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau ymarfer, gan weithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwreigiaeth ac unedau mamolaeth mewn ysbytai.
Mae gennym gysylltiadau ardderchog â byrddau iechyd yng Nghymru, felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o leoliadau ledled de-orllewin Cymru. Mae'r ysbyty mamolaeth agosaf drws nesaf i gampws Parc Singleton, nid nepell o ardal hardd Penrhyn Gŵyr.