Trosolwg o'r Cwrs
**Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS? Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol**
Oes diddordeb gennych yn y “peth mawr nesaf yng ngofal iechyd”? Mae maes Iechyd Poblogaethau yn datblygu ar ras ac mae’n ddewis gyrfa gwych i’r bobl hynny sydd am fod ar y blaen o safbwynt datblygiad gofal iechyd. Mae Iechyd Poblogaeth’n rhoi sylw i ffactorau sy’n gallu pennu iechyd a chanlyniadau iechyd unigolion, grwpiau a phoblogaethau.
Mae’r pwysau cynyddol ar systemau iechyd byd eang yn dra hysbys, gyda chlefydau cronig, poblogaethau sy’n heneiddio a chynnydd o ran achosion iechyd meddwl. Mae datblygiadau ym maes meddygaeth yn gwella iechyd mwy a mwy o bobl, ond mae anghydraddoldebau gofal iechyd yn gyffredin gan ddibynnu ar le mae pobl yn cael eu geni, yn byw ac yn gweithio. Nod iechyd poblogaeth yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn drwy fynd ati i ddeall anghenion gofal iechyd grwpiau o bobl yn well, gwella modelau gofal iechyd a darparu datrysiadau arloesol i gyflawni gofynion iechyd pobl.
Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y gwyddorau meddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg, demograffeg, iechyd y cyhoedd a gwybodeg iechyd. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth academaidd a phroffesiynol sydd eu hangen i bennu amrywiadau systemataidd mewn iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiadau i allu rhoi’r wybodaeth hon ar waith.