Myfyriwr gwrywaidd yn eistedd wrth ei ddesg llety

Wrth gyflwyno dy gais am lety, byddi di'n derbyn e-bost cadarnhau sy'n nodi'r dewisiadau rwyt ti wedi'u cyflwyno. Gelli di olygu dy ddewisiadau yn dy gais heb effeithio ar ddyddiad cyflwyno dy gais gwreiddiol.

Mae dy gais am lety'n cael ei brosesu mewn trefn, yn unol â'r canlynol:

  • y dyddiad rydym yn derbyn cadarnhad gan yr adran Derbyn Myfyrwyr o'th gynnig diamod i astudio
  • myfyrwyr sydd â gofynion meddygol neu anabledd ychwanegol
  • dyddiad derbyn dy gais

MYNEDIAD YM MIS MEDI:

Rydym yn gwneud ein gorau i gynnig dy hoff ddewis am ystafell wrth ddyrannu lle i ti mewn llety. Os na fydd lle yn dy ddewis llety cyntaf, byddwn yn ystyried dy holl ddewisiadau eraill yn eu trefn nes i ni ddod o hyd i ystafell i ti. Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr y gallan nhw eu cynnwys, ni allwn warantu dy brif ddewisiadau.

Ar ôl cael cynnig o ystafell, bydd gennyt ti 3 diwrnod i dderbyn y cynnig a thalu £100 o Flaendal Cadw Lle i sicrhau dy ystafell.


GWEDDILL Y FLWYDDYN ACADEMAIDD:

Rydym yn dyrannu ar sail dyddiad cyflwyno’r cais ac argaeledd ystafelloedd yn unol â'n Polisi Dyrannu.

Bydd ceisiadau i fyfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau ym mis Ionawr a Mawrth yn cael eu hadolygu o fis Medi a mis Ionawr yn eu trefn. Dylet adael 28 niwrnod cyn i'th gwrs ddechrau i gael dy gynnig llety.

Efallai bydd rhai myfyrwyr yn cael cynigion cyn rai eraill, ond nid yw hyn yn golygu nad wyt ti wedi cael llety. Efallai bydd yn rhaid i ni lenwi fflat neu ardal neu aros i gynigion a ddyrannwyd eisoes ddod i ben cyn anfon cynigion pellach.

GWYBODAETH BWYSIG

  • Bydd angen gwarantwr arnat os nad wyt ti'n 18 oed cyn dechrau'r denantiaeth. Bydd mwy o arweiniad yn cael ei anfon drwy e-bost, lle bo'n briodol.
  • Myfyrwyr Rhyngwladol: Cyn derbyn cynnig llety, rhaid dy fod wedi cael unrhyw ddogfennau cyfreithiol megis eich fisa/llythyr CAS i astudio. Gelli di gysylltu â ni'n uniongyrchol os bydd angen oedi dy gais am lety am y rheswm hwn.