Gwiriwch eich cyfrif llyfrgell ar iFind yn gyson ar gyfer dyddiadau dychwelyd, adalwadau, a gwybodaeth bwysig arall sy'n ymwneud a'ch cyfrif. Gall cyfyngiadau ac eithriadau benthyca fod yn berthnasol. Cysylltwch â Llyfrgell MyUni os ydych yn ansicr o unrhyw beth. Rydym yma i'ch helpu!
Benthyg, adnewyddu, a gwneud cais am eitemau llyfrgell
Benthyg adnoddau Llyfrgell
Nifer o eitemau - 30 (dros bob llyfrgell) (uchafswm o 15 eitem o Barc Dewi Sant)
Benthyciad arferol - 4 wythnos
Ceisiadau cydredol - 10
Nifer o eitemau - 30 (dros bob llyfrgell)
Benthyciad arferol - 4 wythnos
Ceisiadau cydredol - 10
Nifer o eitemau - 5 (dros bob llyfrgell heblaw am Barc Dewi Sant)
Benthyciad arferol - 4 wythnos
Ceisiadau cydredol - amherthnasol
Benthyg gliniadur
- Mae loceri gliniadur ar gael yn Llyfrgell Campws Singleton a Llyfrgell Campws Y Bae
- Rhaid cael eich cerdyn myfyriwr i ddefnyddio’r loceri
- Nid yw'n bosib i adnewyddu gliniadur
- Dwy wythnos yw’r cyfnod hiraf gallwch benthyg gliniadur
- Mae dirwy am ddod nol a gliniadur yn hwyr.
- Os rydych chi’n gadael Abertawe gyda dyfeis eich gyfrifoldeb chi yw hynny (erbyn y dyddiad dyledus).
Sylwch:dirwy o £30 ar eich cyfrif llyfrgell os nad ydych yn dychwelyd cebl pŵer y gliniadur.
Adnewyddu eich benthyciadau llyfrgell
- Mae adnewyddiadau awtomatig ar waith ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe dros holl eitemau benthyciad arferol (benthyciadau 4 wythnos). Cyn belled bod yr eitemau rydych wedi'u benthyg ddim wedi'u hadalw ar gyfer ddefnydd gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell, a bod y benthyciadau yn cymwys i gael eu hadnewyddu yn ôl ein Polisi Benthyca Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, bydd benthyciadau arferol yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca cyfredol.
- Sylwch gall holl eitemau'r llyfrgell fod yn destun adalw. Rhaid dychwelyd unrhyw eitem sydd wedi'i adalw ar gyfer defnydd gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell erbyn y dyddiad dychwelyd a nodir yn yr hysbysiad e-bost. Os na chaiff eitem sydd wedi'u hadalw ei ddychwelyd erbyn ei dyddiad dychwelyd, bydd eich cyfrif yn cael ei rewi tan fod yr holl eitemau sydd wedi'u hadalw wedi'u ddychwelyd. Golygir hyn bydd dim un o'r eitemau rydych wedi'u fenthyg yn gallu cael eu hadnewyddu tan fod yr holl eitemau sydd wedi'u hadalw wedi’u ddychwelyd.
- Sylwer, ni chaiff eitemau benthyciad byr, benthyciadau 24 awr, traethodau ymchwil, benthyciadau o liniaduron, neu unrhyw eitemau sydd wedi'u fenthyg gan fenthycwyr allanol eu hadnewyddu yn awtomatig. Gall eithriadau eraill hefyd fod yn berthnasol.
- Gall dirwyon cael eu codi ar unrhyw eitem sydd heb ei ddychwelyd erbyn y dyddiad dychwelyd cyfredol. Cyfrifoldeb y benthyciwr yw gwirio'i gyfrif yn gyson i sicrhau fod eitemau yn cael eu dychwelyd ar amser.
Gwneud cais am adnoddau llyfrgell
Ceisiadau
Gellir gwneud cais am eitemau llyfrgell gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Cais a Chasglu. Os oes angen eitem arnoch ar frys a dydy o ddim ar gael trwy'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â Llyfrgell MyUni os gwelwch yn dda a fyddwn yn ceisio cyflawni eich cais gydag e-lyfr.
Sylwch ar y wybodaeth bwysig ganlynol:
- Ni all defnyddwyr y llyfrgell fenthyg neu wneud cais am ail gopi o eitem sydd eisoes ganddynt ar fenthyg.
- Gall myfyrwyr a staff cyfredol wneud uchafswm o 10 o geisiadau ar unrhyw un adeg.
- Na allwn ddweud gyda sicrwydd y dyddiad bydd yr eitem ar gael i chi ei benthyg.
Adalwadau
Bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gallu adalw eitemau sydd eisoes ar fenthyg i fenthycwyr eraill. Gellir adalw eitemau drwy wneud cais amdanynt drwy'r Gwasanaeth Cais a Chasglu.
Sylwch ar y wybodaeth bwysig ganlynol:
- Os caiff eitem sydd gennych ar fenthyg ei adalw gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell, byddwch yn cael hysbysiad e-bost i roi gwybod i chi am hyn.
- Rhaid dychwelyd yr eitem i'r llyfrgell erbyn y dyddiad dychwelyd a nodir ar yr hysbysiad e-bost.
- Gwiriwch eich cyfrif e-bost y Brifysgol a'ch cyfrif iFind yn gyson ar gyfer hysbysiadau adalw a newidiadau i'ch dyddiadau dychwelyd.
Dychwelyd adnoddau i'r llyfrgell
Mae ardaloedd dynodedig ar gyfer dychwelyd eitemau trwy hunanwasanaeth wedi'u lleoli o fewn mynedfa Llyfrgell Parc Singleton, Llyfrgell y Bae, Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Parc Dewi Sant. Cyfeiriwch at yr arwyddion lleol a dilynwch y cyfarwyddiadau sydd mewn lle.
Gallech ddychwelyd eitemau i unrhyw un o'r Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe canlynol, pa un bynnag o'r pum llyfrgell wnaethoch eu benthyg o yn wreiddiol:
- Llyfrgell Parc Singleton
- Llyfrgell y Bae
- Llyfrgell Glowyr De Cymru
- Llyfrgell Banwen
- Llyfrgell Parc Dewi Sant
Gwiriwch yr oriau agor cyfredol ar gyfer y llyfrgell rydych chi am ymweld â hi. Ni ellir dychwelyd eitemau i'r llyfrgell tra bod yr adeiladau ar gau.
Ni ellir dychwelyd yr eitemau canlynol trwy'r terfynellau hunan-ddychwelyd electronig a rhaid ei ddychwelyd iddesg y llyfrgell yn ystod oriau agor a staff:
- Gliniaduron ac offer TG neu glyweledol arall
- Disgiau meddalwedd
- Allweddi ystafell
- Eitemau benthyciad byr
- Benthyciadau rhyng-lyfrgell
- DVDs aml-ddisg
- Llyfrau gyda disgiau cysylltiedig
Codir dirwyon os ydych yn dychwelyd eitemau ar ôl y dyddiad dychwelyd. Mae dirwyon hwyr yn berthnasol i bob dosbarth benthycwyr, gan gynnwys staff academaidd.
Dirwyon a thaliadau llyfrgell
- Cyflwynwyd adnewyddiadau awtomatig er mwyn annog defnydd adnoddau llyfrgell ac i leihau dirwyon. Er hynny, mae yna dal i fod amgylchiadau le gall dirwyon cael eu codi - gweler y tabl isod.
- Cyfrifoldeb y benthyciwr yw sicrhau bod adnoddau llyfrgell wedi'i dychwelyd mewn cyflwr da erbyn y dyddiad dychwelyd cyfredol. Gall dyddiadau dychwelyd cael eu byrhau os chaiff eitem ei adalw ar gyfer defnydd gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell.
- Os nad ydych yn gallu dychwelyd eitem erbyn y dyddiad dychwelyd, cysylltwch â Llyfrgell MyUni ar unwaith os gwelwch yn dda, gan all hyn effeithio ar ddefnyddwyr eraill y llyfrgell.
- Rydym yn ddeall bod damweiniau'n digwydd ond os ydych yn difrodi neu yn colli eitem o'r llyfrgell, disgwylir i'r benthyciwr talu'r gost amnewid yn llawn. Gellir trefnu rhandaliadau.
- Ni chodi dirwyon ar eitemau gorddyledus o Lyfrgelloedd y Glowyr De Cymru a Banwen. Gall taliadau ar gyfer eitemau coll dal i fod yn berthnasol.
Math o eitem orddyledus |
Dirwy hwyr |
Gwybodaeth arall |
Benthyciad arferol (4 wythnos) gorddyledus sydd wedi'i adalw |
£2.00 yr eitem y diwrnod (hyd at derfyn o £20.00 yr eitem). |
Bydd eich cyfrif yn cael ei rewi tan fod dirwyon o dan £25. Golygir hyn bydd eitemau eraill ddim yn adnewyddu yn awtomatig. Gall hyn arwain at ddirwyon pellach. |
Eitem benthyciad byr (24 awr neu'n llai) |
£2.00 yr eitem y diwrnod (hyd at derfyn o £20 yr eitem). |
Ni chaiff yr eitemau hyn eu hadnewyddu. |
Benthyciadau gliniaduron |
£10 yr eitem y diwrnod (hyd at uchafswm o £100) |
Codir tal ar eitemau sydd wedi'u difrodi neu golli, a bydd yn cynnwys y gost lawn atgyweirio neu amnewid. |
Llyfr coll |
Cewch eich bilio am gost lawn amnewid unrhyw eitemau coll. Caiff eitemau coll ei amnewid gyda'r argraffiad cyfredol neu fwyaf diweddar.. |
Sylwer, mae'n bosib i gost lawn amnewid yr eitem fod yn sylweddol uwch na'r gost pryniant gwreiddiol. |