Sut rydw i’n cyflwyno cais?
Dylech chi gyflwyno cais yn uniongyrchol i'ch sefydliad dewis cyntaf.
Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?
Mae'r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) a'r llwybrau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth arbenigol yn rhaglenni sydd wir yn drawsnewidiol ac yn arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr. Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
Pa lwybrau arbenigol sydd yn MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)?
MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr â diddordeb mewn arweinyddiaeth.
Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu harweinyddiaeth a'u gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Meddu ar addysg at lefel gradd neu gyfwerth;
- Meddu ar statws athro cymwys (SAC) ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athro mewn ysgol, athro ymgynghorol mewn awdurdod lleol neu athro mewn lleoliad megis uned cyfeirio disgyblion (rhaid cynnal cofrestriad gyda QTS neu CGA drwy gydol y rhaglen) NEU'N ddarlithydd coleg ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (rhaid i'r cofrestriad gyda'r CGA gael ei gynnal drwy gydol y cwrs)
- Yn gyflogedig gan ysgol a gynhelir yng Nghymru/coleg yng Nghymru/awdurdod lleol yng Nghymru fel athro/darlithydd/athro ymgynghorol NEU wedi'ch cyflogi gan ysgol annibynnol gofrestredig neu goleg arbenigol;
- Yn gyflogedig ar o leiaf gontractau 0.4 CALl, gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi/darlithwyr sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth;
- Wedi'ch derbyn/cofrestru ar y radd Meistr mewn Addysg benodol hon a gynigir gan y saith partneriaeth sefydliad addysg uwch isod:
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Dylai ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n bosib, gael y cymeradwyaethau a'r gefnogaeth gofynnol gan eu cyflogwyr (ysgol, awdurdod lleol, lleoliad neu goleg) i ymgymryd â'r radd Meistr Genedlaethol mewn Addysg.
- Pan fydd rhywun eisoes wedi cyflawni gradd Meistr mewn pwnc penodol, gallant gyflwyno cais o hyd am y cyllid ar gyfer y rhaglen hon.
- Nid oes cymwysterau graddau Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan sefydliadau addysg uwch yn gymwys am y cyllid hwn.
Ydy'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig?
Nac ydy - ond rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar Statws Athro Cymwys ac yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir.
Beth yw'r dyddiadau cau i gyflwyno cais?
Dyddiad cau derbyn 1: 30 Mehefin 2022
Panel cyllido 1: 22 Gorffennaf 2022
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 5 Awst 2022
Dyddiad cau derbyn 2: 26 Awst 2022
Panel cyllido 2: 16 Medi 2022
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 30 Medi 2022
Dyddiad cau derbyn 3: 23 Medi 2022
Panel cyllido 3: 28 Medi.
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 12 Hydref 2022.
Dyddiad cofrestru hwyraf posib (rhaid bod myfyrwyr wedi cwblhau cofrestru erbyn y dyddiad hwn): 15 Hydref 2022
Beth yw Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?
Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yw'r broses o gydnabod dysgu a wneir gan unigolyn cyn iddo gychwyn ar yr MA. At ddibenion y rhaglen hon, mae'r term yn cynnwys y canlynol: a) Trosglwyddo Credydau - Lle dyfarnwyd y credydau neu'r cymhwyster gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol; b) Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad - lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod. (Gweler dogfennau newydd ar Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol).
Allaf i gael fy eithrio o ran o'r MA h.y. wedi fy nerbyn drwy Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?
Efallai y bydd modd eich derbyn i'r MA ar sail eich bri yn y maes ar sail modiwlau lefel M a astudiwyd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Dylech ddefnyddio'r ffurflen gais safonol i ymgeisio, ond dylech sicrhau eich bod yn cynnwys eich trawsgrifiadau academaidd blaenorol yn ogystal â chopi o faes llafur y cwrs gan roi manylion am y deilliannau dysgu a'r pwysoliadau credyd.
Pa ddogfennau y mae'n rhaid i mi eu hanfon atoch?
Datganiad Personol neu CV (mae angen yr ail os ydych chi'n cyflwyno cais am Achrediad Dysgu drwy Brofiad; Os ydych chi'n cyflwyno cais am Drosglwyddo Credydau, bydd angen i chi gynnwys eich Trawsgrifiad Academaidd SAC gan restru'ch modiwlau; Ffurflen gais atodol am gyllid os ydych chi'n cyflwyno cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pynciau a astudiwyd a graddau a gyflawnwyd.
Sut rydw i'n cyflwyno cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?
Mae Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (y cyfeirir ato'n aml fel RPL) yn galluogi Prifysgolion i wneud eithriadau ar gyfer modiwlau neu feysydd pwnc y mae ymgeiswyr eisoes wedi'u 'cwblhau', naill ai drwy addysg ffurfiol neu drwy brofiad a datblygiad proffesiynol. Felly ni ofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ailadrodd neu gwblhau dysgu y cydnabyddir eu bod nhw eisoes wedi'i gyflawni.
Mae MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) wedi'i dylunio i gydnabod y bydd eisoes gan lawer o fyfyrwyr gymwysterau a/neu brofiad proffesiynol sy'n golygu y gallant ddangos eu bod wedi cyflawni modiwlau blwyddyn 1 y rhaglen, felly nad oes rhaid iddynt ailadrodd cynnwys. Ni fydd Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yn berthnasol i fodiwlau blwyddyn 2 neu'r Traethawd Estynedig ac mae'n rhaid i'r holl fyfyrwyr gwblhau'r rhain.
O ganlyniad, gall ymgeiswyr sydd â chymwysterau cydnabyddedig (e.e. TAR) a/neu brofiad proffesiynol sylweddol gyflwyno cais i'r rhain gael eu cydnabod yn ffurfiol yn lle rhai neu'r holl fodiwlau sy'n werth 60 o gredydau ym mlwyddyn 1 y rhaglen. I fod yn gymwys i gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth academaidd a/neu broffesiynol priodol i ddangos eu bod yn bodloni'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y modiwlau, a restrir ar y Ffurflen Gais RPL.
Os oes gennych chi radd TAR sy'n werth 60 o gredydau ar lefel 7 FHEQ (Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch) a gyflawnwyd fel arfer yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, nid oes rhaid i chi fapio'ch dysgu proffesiynol i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a dylech chi gyflwyno eich trawsgrifiad (os nad oes un o'r rhain gennych chi, dylech chi allu gofyn am un newydd gan eich Prifysgol).
Os oes gennych chi SAC heb TAR, neu os cyflawnwyd eich TAR mwy na 5 mlynedd yn ôl, neu os yw eich TAR yn cynnwys llai na 60 o gredydau ar lefel 7, bydd angen i chi gyflwyno eich trawsgrifiad ar gyfer elfennau o gredyd rydych chi am eu cynnwys, a bydd angen i chi fapio eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a rhaid i'ch dysgu fod yn werth y credydau sy'n weddill (e.e. os yw eich TAR yn rhoi 40 o gredydau ar lefel 7 i chi, bydd angen i chi ddangos dysgu drwy brofiad sy'n werth 20 o gredydau'n unig). Dylech chi fapio i'r modiwl(au) sy'n cynnwys y Deilliannau Dysgu sy'n arddangos orau eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad yn eich barn chi.
Lle gallwch chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer rhai o'r Deilliannau Dysgu'n unig, byddwch chi'n cofrestru ar gyfer modiwlau ym mlwyddyn 1 sy'n angenrheidiol ar gyfer cwblhau'r Deilliannau Dysgu y mae eu hangen i symud ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen.
Arholiadau myfyrwyr:
Beth yw'r 'Ffurflen Gais Atodol'?
Bydd y ffurflen hon yn manylu ar ddewis modiwlau astudio cychwynnol ac a oes rhai ohonynt yn gysylltiedig â'r llwybrau ADY neu Arweinyddiaeth arbenigol. Gellir hefyd ddarparu yma ddatganiad cefnogi gan eich ysgol er mwyn dangos ei hymrwymiad i chi astudio ar y cwrs.
Oes angen TGAU yn y Gymraeg arnaf?
Nid oes angen TGAU yn y Gymraeg arnoch chi i gyflwyno cais am y rhaglen hon.
Sut gallaf gofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Rhithwir?
Edrychwch ar wefannau sefydliadau unigol.
Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon?
Gweler y tudalennau cwrs.
Oes angen i mi ddarparu gwiriad manwl gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd sy'n benodol i'r rhaglen?
Nac oes.
Rwy'n athro yn Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon - allaf i gyflwyno cais ar gyfer y rhaglen o hyd?
Gallwch, ond ni fyddwch chi'n gymwys am gyllid.
Rwy'n athro o'r UE/Dramor - allaf i gyflwyno cais ar gyfer y rhaglen o hyd?
Na allwch.