Trosolwg
Mae Bryan wedi ymuno â staff academaidd yr adran Cyfrifeg a Chyllid fel darlithydd Cyllid. Mae gan Bryan radd Meistr mewn Economeg Ariannol, Doethuriaeth mewn Cyllid ac mae'n meddu ar achrediad gan y CFA.
Mae gan Bryan dros 20 mlynedd o brofiad mewn rheoli asedau ar lefel cyfarwyddwr. Mae hyn yn cynnwys rheoli dros USD10 biliwn o fuddsoddiadau pensiwn sefydliadol a buddsoddiadau cronfeydd cydfuddiannol mewn marchnadoedd datblygol yn Invesco, Deutsche Bank a Baring Asset Management.
Ar hyn o bryd, mae Bryan yn dilyn astudiaethau pellach ym maes dysgu peirianyddol drwy Brifysgol Stanford.