Dr Jonathan Dunnage

Cyswllt Ymchwil Er Anrhydedd, Humanities and Social Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602610

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n hanesydd cymdeithasol a diwylliannol ar Ewrop yr ugeinfed ganrif gyda diddordebau penodol yn yr Eidal, plismona, troseddu a milwreiddio. Rwy'n addysgu hanes yr Eidal, a hanes troseddu, plismona a chosbi, ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Yn ddiweddar, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar ddiwylliant mewnol a byd-olygon heddlu'r Eidal o dan drefn Mussolini ac yn ystod blynyddoedd cynnar y Weriniaeth.

Ar hyn o bryd rwy'n ymchwilio i gynrychiolaethau o droseddu a 'gwyriad' i'r cyhoedd drwy'r cyfryngau a diwylliant poblogaidd yn yr Eidal ffasgaidd ac yn ystod y Rhyfel Oer. Rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect ymchwil cydweithredol ar filwreiddio Ewrop ers 1945, sy'n cynnwys rhwydwaith rhyngwladol amlddisgyblaethol o ymchwilwyr. O fewn y prosiect hwn, rwy’n ymchwilio i filwreiddio  'diwylliannol' yr heddlu a diogelwch mewnol yn yr Eidal ar ôl y rhyfel.

Rwy’n un o sylfaenwyr y Grŵp Ymchwil ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Ad-drefnu a Chof (CRAM), sydd wedi'i leoli yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n  aelod o Rwydwaith Cyfiawnder Troseddol Hanes Gwyddorau Cymdeithasol Ewrop ac yn aelod o fwrdd cynghori'r cyfnodolyn, Crime, Histoire et Soétés/Crime, History and Societies, a thîm golygyddol y cyfnodolyn ar-lein Eidalaidd Bibliomanie. Letterature, Storiografie, Semiotiche  (bibliomanie.it).