Ffotograff o berson yn gwisgo menig glas yn dal bicer.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn grant newydd gan Horizon Ewrop i roi'r genhedlaeth nesaf o asesiadau peryglon a risgiau cemegolion a deunyddiau newydd ar waith, gan leihau'r angen am brofi ar anifeiliaid wrth ddiogelu iechyd dynol.

Dyfarnwyd y grant fel rhan o CHIASMA (Accessible Innovative Methods for the Safety & Sustainability Assessment of Chemicals & Materials), prosiect gwerth €10.3 miliwn dros bedair blynedd sy'n cynnwys 20 o bartneriaid o 14 gwlad wahanol ledled Ewrop yn ogystal â Korea.

Daw'r prosiect â €480,000 i Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, gan alluogi cyfoeth o wybodaeth i gael ei drosglwyddo ar draws partneriaid rhyngwladol a hyrwyddo'r mentrau 3R sef lleihau, mireinio ac amnewid profi ar anifeiliaid mewn gwyddoniaeth diogelwch, gan ddefnyddio ymagweddau gwyddonol sy'n torri tir newydd ym maes tocsicoleg enetig.

Bydd arweinydd y prosiect yn Abertawe, yr Athro Shareen Doak, a'i thîm yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau in vitro uwch sy'n dynwared yr afu dynol, gan eu cymhwyso nhw i ymchwilio i botensial ystod o gemegolion a deunyddiau arloesol uwch i niweidio DNA.

Bydd y tîm hefyd yn defnyddio'r modelau hyn i ddylunio dulliau sy'n gallu gwerthuso effeithiau niweidiol hirdymor, megis carsinogenigrwydd, sy'n seiliedig ar arwyddion o niwed i DNA cyfansoddion a deunyddiau newydd sydd o bwys economaidd-gymdeithasol.

Meddai'r Athro Shareen Doak, Athro Genowenwyneg a Chanser: “Mae CHIASMA yn brosiect newydd cyffrous a fydd yn cyflwyno'r genhedlaeth nesaf o wyddoniaeth profi diogelwch. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr gwyddonol ledled Ewrop ac yn rhyngwladol i ddatblygu dulliau a strategaethau amgen i asesu cemegolion a deunyddiau newydd heb anifeiliaid. Bydd y rhaglen ymchwil a gyflwynir gennym drwy CHIASMA felly'n cynnig offer arloesol yn y dyfodol a dulliau i symud at gymdeithas fwy cynaliadwy a diwenwyn."

Meddai cydlynydd prosiect CHIASMA Dr Tommaso Serchi, o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Lwcsembwrg (LIST),: “Rwyf wrth fy modd yn arwain prosiect CHIASMA, a fydd yn cynnig posibilrwydd cadarn i symud at asesu diogelwch heb anifeiliaid a’r genhedlaeth nesaf o asesiadau risg.”

Ewch i wefan CHIASMA i gael mwy o wybodaeth.

Rhannu'r stori