Menyw sy'n oedolyn yn sefyll mewn gardd yn rhoi eli haul ar freichiau merch fach

Gallai ysgolion cynradd yng Nghymru wneud mwy i helpu i ddiogelu pobl ifanc rhag peryglon dod i gysylltiad â'r haul, yn ôl astudiaeth newydd.

Datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe fod llai na hanner yr ysgolion wedi rhoi polisi diogelwch haul ar waith i'w disgyblion a bod anghysondeb o ran presenoldeb polisi ledled Cymru. 

Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Dr Julie Peconi, prif ymchwilydd Sunproofed, astudiaeth dulliau cymysg o ddiogelwch haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae ei chanfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn ar-lein Clinical and Experimental Dermatology

Er ei bod yn llawer haws atal canser y croen na'r rhan fwyaf o ganserau eraill, mae un o bob pump o bobl yn debygol o ddatblygu'r clefyd yn ystod eu hoes yn y DU, ac mae'n hysbys bod plentyndod yn adeg hollbwysig er mwyn osgoi gormod o gysylltiad â phelydrau uwchfioled, sef prif achos canser y croen. 

Roedd tîm Sunproofed am wybod a oedd gan ysgolion bolisi diogelwch haul, sef dogfen ffurfiol sy'n nodi sut mae'r ysgol yn addysgu ac yn darparu diogelwch haul. Yn ogystal, archwiliodd y tîm a yw bodolaeth polisi'n amrywio yn ôl lleoliad neu fathau o ysgol a pha gymorth y mae ei angen ar staff ysgolion i ddatblygu polisïau gwell yn y dyfodol a'u rhoi ar waith. 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gwnaeth y tîm anfon arolwg amlddewis ar-lein i bob un o'r 1,241 o ysgolion cynradd yng Nghymru. 

Meddai Dr Peconi, o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: “Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod llawer o ysgolion yn anymwybodol o bwysigrwydd diogelwch haul a bod angen cymorth arnyn nhw i ddatblygu polisïau a'u rhoi ar waith.”

 Datgelodd yr astudiaeth y canlynol:

  • Roedd gan 39 y cant o'r ysgolion cynradd yng Nghymru a ymatebodd i’r arolwg bolisïau diogelwch haul ffurfiol ac roedd 82 y cant o'r ysgolion hyn yn eu gorfodi;
  • Ymysg yr ysgolion a ymatebodd i'r arolwg, roedd y rhai hynny a chanddynt fwy o blant yn derbyn prydau ysgol am ddim a chofnodion presenoldeb is yn llai tebygol o feddu ar bolisi diogelwch haul; fodd bynnag, roedd ysgolion yng ngogledd Cymru a'r rhai hynny a oedd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fwy tebygol o feddu ar bolisi;
  • Ymysg yr ysgolion a ymatebodd i’r arolwg nad oedd ganddynt bolisi diogelwch haul, dywedodd 34.6 y cant ohonynt nad oeddent yn ymwybodol bod angen polisi o’r fath;
  • Dywedodd 30.3 y cant fod angen cymorth arnynt wrth lunio polisi neu weithdrefn; a
  • Chyfaddefodd 26.8 y cant o'r ysgolion a ymatebodd i’r arolwg “nad oeddent wedi mynd i'r afael â'r peth eto”. 

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae canlyniadau'r arolwg yn cynnig cipolwg ar y sefyllfa bresennol yng Nghymru ac yn rhoi sail i werthuso a chefnogi polisïau diogelwch haul. 

Meddai Dr Peconi: “Yn Lloegr, mae'n rhan orfodol o'r cwricwlwm i ysgolion addysgu am gysylltiad diogel ac anniogel â'r haul, ond yng Nghymru mae hyn yn cael ei argymell yn unig, ac mae ein canfyddiadau'n dangos anghysondeb o ran diogelwch haul ffurfiol a diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol o bwysigrwydd y maes hwn. 

“Rydyn ni'n gwybod bod ysgolion yn fannau anhygoel o brysur a bod ganddyn nhw sawl blaenoriaeth sy'n gwrthdaro. Hoffwn i weld diogelwch haul yn cael ei flaenoriaethu'n fwy ac yn cael ei wneud yn orfodol, ond bydd angen cymorth ac arweiniad digonol ar ysgolion er mwyn gwireddu hyn. 

“Bydd angen ymagwedd gyfunol gan bawb dan sylw, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, cydlynwyr ysgolion iach, staff ysgolion, llywodraethwyr a'r gymuned ysgolion.”

 

Rhannu'r stori