Llun o grŵp o'r cleifion a staff a gymerodd ran yn y prosiect Rhagnodi Cymdeithasol.

Mae Oriel Science, canolfan arddangosiadau cyhoeddus arloesol Prifysgol Abertawe, wedi bod yn helpu cleifion ag anaf i'r ymennydd sy'n cael triniaeth adsefydlu i wella eu hiechyd a'u lles drwy ei phrosiect Rhagnodi Cymdeithasol cyntaf.

Mae'r prosiect 10 wythnos o hyd yn gydweithrediad â Gwasanaeth Niwroseicoleg Ranbarthol ac Anafiadau i'r Ymennydd Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gwahoddwyd cleifion i nifer o sesiynau rhyngweithiol yn lleoliad canol y ddinas Oriel Science, o sgyrsiau ysgogol a gweithgareddau creadigol i arbrofion ymarferol.

Nod y sesiynau dan arweiniad academyddion o Brifysgol Abertawe oedd rhoi cipolwg agosach i'r cyfranogwyr ar yr ymchwil a'r syniadau sy'n sail i arddangosfa Delweddu Oriel Science. Yn ogystal, darparwyd amgylchedd cyfeillgar i annog cysylltiadau cymdeithasol drwy rannu profiadau.

Mae rhagnodi cymdeithasol yn galluogi meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol i atgyfeirio cleifion at amrywiaeth o wasanaethau cymunedol neu wirfoddoli anghlinigol, megis garddio, dosbarthiadau coginio, gwasanaethau cyngor ariannol, a grwpiau celf a chrefft.

Mae'r adroddiad Museums as Spaces for Wellbeing gan y Gynghrair Genedlaethol ar gyfer Amgueddfeydd, Iechyd a Lles yn amlygu'r potensial i amgueddfeydd a sefydliadau eraill megis Oriel Science gynnig cyfleoedd i adeiladu cymuned a helpu i feithrin ymdeimlad o gynhwysiant.

Meddai cyd-arweinydd y prosiect, Dr Jess Fletcher, Uwch-ddarlithydd yn y gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe: "Cawson ni ein hysbrydoli gan y prosiect Museums on Prescription i archwilio a allai cymryd rhan mewn gweithgareddau yn seiliedig ar wyddoniaeth ac ymchwil yn Oriel Science gynnig manteision lles tebyg i'n cymuned leol.

"Mae'r prosiect wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Rydyn ni wedi cael adborth gwych gan gyfranogwyr ac wedi mwynhau'n fawr dod i'w hadnabod nhw a'r tîm clinigol. Rydyn ni'n gobeithio parhau i adeiladu ar y gweithgareddau hyn yn y dyfodol."

Meddai Dr Zoe Fisher, seicolegydd clinigol ymgynghorol yn Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe a Gwasanaeth Niwroseicoleg ac Anafiadau i'r Ymennydd Rhanbarthol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Darparodd y prosiect hwn gyd-destun ardderchog ar gyfer cysylltu cymdeithasol, emosiynau cadarnhaol, ystyr a chyflawniad sydd i gyd yn cyfrannu at wella lles ac integreiddio cymunedol. Mae'r profiad wedi bod mor galonogol i'r cyfranogwyr a mor fuddiol i'w proses iacháu ac i ddatblygu diddordebau newydd wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ar ôl cael anaf i'r ymennydd."

Meddai Denise Davey, mentor gwirfoddolwyr, Gwasanaeth Anafiadau i'r Ymennydd (BIS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Fel claf sydd wedi elwa o'r Gwasanaeth Anafiadau i'r Ymennydd ar ôl cael fy rhyddhau o'r ysbyty'n ddiweddar, neidiais i at y cyfle i weithio ar y prosiect hwn. Wrth i chi wella, gall y byd deimlo'n rhyfedd a gall y tasgau mwyaf syml eich llethu.

"Mae'r cyfleoedd mae BIS yn eu darparu yn mynd â ni y tu hwnt i amgylchedd dyddiol neu glinigol, gan roi cyfle i ni brofi ysgogiadau corfforol a meddyliol iach. Mae prosiect Oriel Science wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau 'anarferol' gan roi dealltwriaeth newydd i lawer ohonom o'r byd o'n cwmpas a safbwynt newydd arno. Gorau i gyd, does dim angen gwybodaeth wyddonol flaenorol arnoch chi. Mae wedi bod yn brofiad sy’n cyfoethogi eich meddwl a’ch bywyd."

Ers iddo gael ei lansio yn 2016, mae Oriel Science wedi ymgysylltu â thros 160,000 o aelodau'r gymuned a darparu gweithdai i 4,000 o fyfyrwyr ysgol.

Mae cyflwyno'r prosiect Rhagnodi Cymdeithasol yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad y ganolfan i fynd ag ymchwil i'r gymuned, gan gydweithredu'n agos â sefydliadau lleol eraill, a mynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol.

Rhannu'r stori