Rhuban yn cynnwys darnau jig-so yn dynodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gefndir glas plaen

Mae ymchwil newydd yn dangos y gallai dyblu'r gyfradd cyflogi pobl awtistig - sydd ar hyn o bryd tua hanner cyfradd cyflogaeth pobl niwronodweddiadol - hybu'r economi o hyd at £1.5 biliwn.

Ac eto, mae llawer o gyflogwyr heb fod yn ymwybodol o'r buddion y gallai rhoi gwaith i bobl awtistig eu cynnig i'w busnes ac mae graddedigion awtistig yn aml yn cael eu gadael yn ansicr lle y gallan nhw ffitio i mewn ar ôl profiad strwythuredig astudio yn y brifysgol, neu ynghylch lle y gall eu sgiliau gael eu defnyddio orau, yn wyneb natur anrhagweladwy chwilio am swyddi.

Ym Mis Derbyn Awtistiaeth, mae Dr Brian Garrod, Athro Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe, yn galw ar ddarparwyr addysg uwch i ddilyn arweiniad Prifysgol Abertawe gan edrych yn agosach at sut y maen nhw'n cefnogi myfyrwyr awtistig sy'n camu i mewn i'r farchnad swyddi.

Mae Dr Garrod wedi bod yn astudio profiadau twristiaeth pobl niwroamrywiol am flynyddoedd. Pan fynegodd ei fab awtistig ei bryderon am ei ragolygon ei hun ar ôl graddio, aeth Dr Garrod i edrych yn fanylach ar yr ystadegau ac fe ganfu nad oedd ei fab ar ei ben ei hun wrth deimlo'n bryderus am beth oedd o'i flaen yn y dyfodol ar ôl y brifysgol.

Arweiniodd yr ymchwil at Dr Garrod yn lansio astudiaeth mawr newydd ar sut y mae myfyrwyr awtistig yn teimlo am eu cyfleoedd gyrfa ar ôl iddyn nhw raddio. Gan weithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol John Moores Lerpwl a'i gydweithwyr yng Ngwasanaeth Lles ac Anabledd Prifysgol Abertawe, bu Dr Garrod yn cyfweld myfyrwyr a chynghorwyr gyrfaoedd, ac mae bellach wedi creu pecyn cymorth i helpu cynghorwyr gyrfaoedd i roi cefnogaeth ac arweiniad y mae mawr ei angen i fyfyrwyr ASD. Mae Prifysgol Abertawe wedi mabwysiadu'r rhaglen ac mae'n annog darparwyr addysg uwch eraill i wneud yr un peth.

Mae Dr Garrod yn gobeithio trawsnewid y ffordd y mae myfyrwyr awtistig yn cael eu cefnogi wrth wynebu'r dasg anodd o chwilio am swydd  ¾ mater perthnasol iawn yn dilyn adroddiad diweddar Adolygiad Buckland ar Gyflogaeth Awtistiaeth, a ganfu fod pobl awtistig wedi cael llawer mwy o brofiadau negyddol mewn cyfweliadau am swyddi, tasgau grŵp a phrofion seicometrig.

Soniodd myfyriwr awtistig sy'n astudio gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, meddai: "...mae'r cyfweliad yn ddawns, a dydych chi ddim wedi cael gwybod beth yw'r camau. Mae'r person yma sy'n ceisio dawnsio gyda chi, a does gennych chi ddim syniad o gwbl beth yw'r camau.  Felly, wrth gwrs, rydych chi'n gwneud smonach o bethau - yn sefyll ar eu traed - a rydych chi'n drwsgl."

Meddai Dr Garrod: "Oedolion awtistig yw un o'r grwpiau lleiaf tebygol o fewn y boblogaeth oedran gwaith i fod â swydd gyflogedig llawn amser. Dydy cynghorwyr gyrfaoedd prifysgolion ddim bob amser yn cael yr offer a'r hyfforddiant sydd ei angen i gefnogi myfyrwyr gydag anghenion ychwanegol pan mae'n dod i ganfod y math iawn o yrfa iddyn nhw, ac mae hyn yn gadael llawer o fyfyrwyr awtistig i syrthio drwy'r craciau.

"I bobl awtistig, mae gadael y brifysgol yn gallu bod yn brofiad anodd dros ben gan ei fod yn golygu newid enfawr mewn trefn a disgwyliadau  ¾ bydd cael y gefnogaeth hon gan gynghorwyr gyrfaoedd yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i wneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu clywed ac i fod yn hyderus i gymryd y camau nesaf i ddod o hyd i'r swydd sy'n iawn iddyn nhw.

"O safbwynt cyflogwr, gall busnesau elwa'n fawr o 'fantais awtistiaeth' drwy roi swydd i rywun sydd â'r sgiliau a'r diddordebau penodol fyddai'n helpu i symud eu sefydliad ymlaen."

Yn fwy eang, mae Dr Garrod yn gobeithio annog newidiadau o fewn byd busnes i fabwysiadu arferion cyfweld a chyflogi mwy tryloyw a hygyrch.

"Mae mynd i fewn i fyd gwaith yn dod â gymaint o fuddion y tu hwnt i elw ariannol - mae'n cynnig cyfleoedd cymdeithasu a'r cyfle i ddilyn eu diddordebau pennaf.  Ar hyn o bryd, dim ond 30% o oedolion awtistig sydd mewn gwaith cyflogedig. Dwi'n gwybod y gallwn weld y nifer yna'n cynyddu gyda'r gefnogaeth a'r ddealltwriaeth iawn.

"Dwi'n gobeithio y byddwn, drwy ymgyrchu parhaus a darparu adnoddau fel ein pecyn cymorth, yn gweld mwy o raddedigion awtistig yn elwa o waith cyflogedig tymor hir."

Mae pecyn cymorth cyngor rhad ac am ddim Dr Garrod, sy’n rhoi arweiniad i gynghorwyr gyrfaoedd ar sut i gefnogi myfyrwyr awtistig yn well, bellach ar gael i’w lawrlwytho.

 

Rhannu'r stori